Llun cyhoeddusrwydd o un o gynyrchiadau diweddara' Opera Cenedlaethol Cymru. Madame Butterfly (o wefan WNO)
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn creu partneriaeth i greu Ysgol Opera i Gymru.
Maen nhw’n dweud y bydd yr Ysgol yn cynnig hyfforddiant i gantorion, offerynwyr, arweinyddion, cyfarwyddwyr a rheolwyr llwyfan sydd am weithio ym maes opera.
Fe fydd hefyd yn bwriadu cynnig rhaglen gradd Meistr newydd ar gyfer cyfarwyddwyr opera dan hyfforddiant.
Meithrin Talent
Mae’r ddau sefydliad yn dweud y bydd y bartneriaeth yn gweithio er lles y naill a’r llall.
“Fel cwmni opera o’r radd flaenaf, mae arnon ni angen cael y cyfle gorau posib i gael gafael ar dalent sy’n dod i’r amlwg, a does dim ffordd well i gael hynny na thrwy weithio’n uniongyrchol gyda’r rhai sy’n eu meithrin” medd Cyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru, David Pountney.
“R’yn ni hefyd yn hynod ymwybodol bod y manteision yn llifo’r ddwy ffordd; bod gan ymglymiad agos â chwmni opera cenedlaethol y potensial i ychwanegu dyfnder a pherthnasedd sylweddol i’r hyfforddiant.”