Mae senglau Nadolig yn cael eu cysylltu yn draddodiadol gyda llawenydd a dathlu, ond mae sengl Nadolig un band roc Gymraeg wedi ymwrthod â’r ystrydebau arferol eleni.
“O’n i eisie recordo rhywbeth jolly ond o’n i ffaelu, bron,” meddai Dai Lloyd o’r band Mas Tu Fas, gan gyfeirio at 2016 fel sbardun am naws wahanol y gân ‘Mae’r Dolig wedi canslo’.
Er nad sengl gwrth-Nadoligaidd yw’r gân o reidrwydd mae Dai Lloyd yn teimlo bod Nadolig bellach “mor ariannol gyda phobol yn mynd mewn i ddyled,” ac mai gwir bwrpas yr ŵyl yw “cael amser da a bod yn neis i’ch gilydd” gan fod “bywyd yn parhau ar ôl y 25ain o Ragfyr.”
Cafodd y gân ei recordio yn stiwdio Daniel Lawrence o fand Y Sibrydion gynt, ac fe ysgrifennwyd y geiriau mewn hanner awr ar fore’r recordio.
“Mae modd i senglau Nadolig fod yn gawslyd fel unrhyw beth os ti’n clywed nhw gormod,” meddai Dai Lloyd “ond yn gyffredinol ma’ nhw’n syniad da … fi’n meddwl bod nhw’n dda.”
Gwyliwch Dai Lloyd (a Santa Slaymaker) yn egluro’r cefndir i’r gân, ‘Mae’r Dolig wedi canslo’ yn y clip hwn:
Sion Corn yn y fideo
Wrth siarad am greu’r fideo gwnaeth gyfarwyddo ei hun, pwysleisiodd yr angen am “rhywbeth gweledol” a dywedodd Dai Lloyd mai Garry Slaymaker oedd y dewis naturiol ar gyfer y brif rôl o ystyried cynnwys geiriol y gân.
Yn ychwanegol â lledaenu’r llawenydd mae Dai Lloyd yn gweld y fideo fel cyfle i gadw’r iaith i fynd: “Mae’r iaith yn fyw ti ’mod, a ma’ fe’n berthnasol heddi’ … sai’n credu bod digon yn y Gymraeg.”
A dyma chi’r gân ei hun: