Mae’r wythfed Dydd Miwsig Cymru’n cael ei gynnal ar hyd a lled Cymru – a thu hwnt – heddiw (dydd Gwener, Chwefror 10).

Mae’r diwrnod yn ddathliad o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg fywiog, ac yn gyfle i arddangos doniau artistiaid o bob genre.

Nod y diwrnod yw cyflwyno miwsig Cymraeg i gynulleidfaoedd newydd drwy ddathlu cerddoriaeth Gymraeg a’r artistiaid sy’n achosi cynnwrf yma ac ar draws y byd.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae mwy na 70 o albymau a 140 o senglau wedi’u cyhoeddi yn yr iaith, tra bod caneuon wedi’u perfformio ar lwyfannau o Glastonbury i Eurosonic yn yr Iseldiroedd.

Mae digwyddiadau byw wrth galon Dydd Miwsig Cymru eleni, wrth i fwy na 30 o gigs a digwyddiadau gael eu cynnal ledled Cymru a’r byd – o Gaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Pontypridd, Aberystwyth a Wrecsam i Budapest – ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod y Dydd Miwsig Cymru mwyaf erioed o ran mynychwyr.

Mae’r digwyddiadau’n amrywio o weithdai rap cydweithredol mewn ysgolion, i gigs mewn tafarndai, clybiau, canolfannau cymunedol a champysau colegau.

Cronfa newydd a phôl piniwn

Mae cronfa newydd gwerth £100,000 wedi’i chyhoeddi gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg, ar Ddydd Miwsig Cymru, er mwyn helpu hyrwyddwyr a grwpiau cymunedol i gynnal sioeau byw drwy gynlluniau mentora a rhannu sgiliau.

Bydd y cynllun ‘Miwsig’ yn canolbwyntio ar gefnogi cymunedau i greu gofodau i ddefnyddio’r Gymraeg drwy gerddoriaeth fyw yn eu cymunedau.

Yn y digwyddiad eleni hefyd, cafodd ‘Seiniau Miwsig’ ei lansio, sef y pôl piniwn blynyddol cyntaf o’r artistiaid sydd am achosi cynnwrf yn 2023, sydd wedi’u dewis gan arbenigwyr o’r diwydiant ac sy’n cael eu cyhoeddi rhwng dydd Sul, Chwefror 5 a dydd Iau, Chwefror 9.

Lloyd, Dom James, a DON yw enillwyr y ‘Seiniau Miwsig’ cyntaf yn 2023. Mae’r ddeuawd rap wedi bod yn cydweithio ers 2017, a’r llynedd fe wnaethon nhw gyhoeddi eu sengl gyntaf, ‘Pwy Sy’n Galw?’, gafodd ei chanmol gan Huw Stephens sy’n cyflwyno ar Radio Cymru.

Roedd yr artistiaid eraill gafodd eu cyhoeddi fel rhai i’w gwylio ym myd miwsig Cymraeg eleni yn cynnwys yr artist rap, hip-hop ac RnB, Sage Todz; y canwr-gyfansoddwr Mali Hâf; y gwneuthurwr bîts lo-fi Sachasom; a’r artist pop amgen Tara Bandito.

Mae’r iaith yn ganolog i’r egni diwylliannol newydd yng Nghymru: yn dilyn llwyddiant tîm pêl-droed y dynion yng Nghwpan y Byd FIFA, cân brotest Dafydd Iwan ‘Yma O Hyd’ – sydd hefyd wedi cael gweddnewidiad dril gan Sage Todz – yn cyrraedd rhif un yn siart iTunes, a’r mis diwethaf, cyfres Dal y Mellt ar S4C yn cael ei dewis fel y gyfres ddrama Gymraeg gyntaf i gael ei dosbarthu’n rhyngwladol gan Netflix.

Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae cerddoriaeth rap Cymraeg yn dod i amlygrwydd wrth i Dom James, Lloyd Lewis a BOYO ymuno â Sage Todz a’r oesol Mr Phormula mewn sîn sy’n mynd o nerth i nerth.

Perfformio yn Gymraeg “yn her hollol wahanol”

“Mae’r Gymraeg yn iaith farddonol a dyn ni’n cael defnyddio patrymau llif ac odlau gwahanol,” meddai Dom James, enillydd ‘Seiniau Miwsig’ 2023.

“Mae’n her hollol wahanol a dyn ni’n cael cysylltu ar lefel wahanol.

“Mae’r teimlad yna o falchder yn anhygoel pan dyn ni’n perfformio’n fyw ac yn gweld plant heb rwystrau a phobol yn dod aton ni i ddweud, ’dw i’n mynd i orfod dysgu’r iaith nawr’.”

“Mae’n wych gweld digwyddiadau byw yn ganolog i Ddydd Miwsig Cymru eleni,” meddai Huw Stephens.

“Mae’r diwrnod yn dod â phobol at ei gilydd ac yn ein hatgoffa bod yr iaith yn perthyn i bawb – a does dim ffordd well i bobol o bob oed brofi miwsig newydd nag mewn gig neu ddigwyddiad byw.

“’Dyn ni hefyd yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o genres yn y sîn miwsig Cymraeg ac mae’n wych gweld cymysgedd mor cŵl o wneuthurwyr miwsig yn cael eu henwi yn yr arolwg ‘Seiniau Miwsig’ cyntaf.”

Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050

Mae Dydd Miwsig Cymru yn rhan o weledigaeth hirdymor y Llywodraeth i weld miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ogystal â dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050, ac mae miwsig Cymraeg yn cael ei weld fel adnodd hanfodol i helpu pobol i ddysgu’r iaith.

Mae’r awdur a’r actor ar gyfres Gavin and Stacey, Ruth Jones, wedi dweud yn y gorffennol bod cerddoriaeth wedi ychwanegu at ei geirfa Gymraeg.

“Dw i’n meddwl bod gwrando ar fiwsig Cymraeg fel dysgwr yn ddefnyddiol iawn, oherwydd mae yna rywbeth am fiwsig, rydych chi’n mynd i mewn i’r groove ac yn dechrau canu,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod miwsig yn arf addysgu a dysgu pwerus iawn, ond yn un pleserus.”

Ewch i adran ‘Dydd Miwsig Cymru 2023’ golwg360 i ddarllen rhagor am y diwrnod.