Ela Jones wrth ei gwaith
Cyhoeddwyd heddiw mai Ela Jones fydd yn olynu Siân Aman yn Feistres y Gwisgoedd Gorsedd y Beirdd hyd at 2013.
O Ysbyty Ifan ger Betws y Coed y daw Ela, a urddwyd i’r Orsedd er anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd y llynedd, am ei gwasanaeth fel gwniadwraig, cynllunydd a gwneuthurwraig.
Fe fydd yn cysgodi Siân Aman yn y gwaith ar y cychwyn, wrth iddi ymgyfarwyddo â dyletswyddau Meistres y Gwisgoedd.
“Rydym yn llongyfarch Ela’n wresog ar ei phenodiad yn Feistres y Gwisgoedd Gorsedd y Beirdd,” meddai’r Archdderwydd, Jim Parc Nest.
“Rwy’n sicr y bydd yn llwyddiant yn y swydd ac yn gaffaeliad mawr i Fwrdd yr Orsedd yn ogystal.
“Edrychwn ymlaen i gydweithio gydag Ela dros y blynyddoedd nesaf, gan gychwyn gyda Chyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 ym mis Mehefin, ac Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro ddechrau Awst eleni.
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged a diolch i Siân Aman am ei hymroddiad a’r gwasanaeth di-flino mae wedi’i roi i’r Orsedd drwy’r blynyddoedd, a dymunwn yn dda iawn iddi hi wrth iddi ymddeol o’r swydd bwysig hon ar ddiwedd y Brifwyl eleni.”
Mae cyfrifoldebau’r swydd hon, sydd yn ddi-dâl, yn cynnwys gofalu’n arbennig am wisg a choron yr Archdderwydd, gwisg y Priflenor neu’r Prifardd buddugol, ynghyd â gwisgoedd Mam y Fro a chyflwynydd y Flodeuged.
Meistres y Gwisgoedd sydd hefyd yn goruchwylio’r eitemau seremonïol, gan gynnwys y regalia, sydd yn cael ei arddangos yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Yn ogystal, ceir nifer o ddyletswyddau seremonïol, gan gynnwys arwisgo enillydd y tair seremoni lwyfan cyn eu hebrwng i lwyfan y Pafiliwn a chludo’r goron a’r deyrnwialen yn ystod seremoni gorseddu’r Archdderwydd.