Mae llun ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod arwydd hanesyddol ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud wedi cael ei ddifrodi – a’i ddisodli gan y gair ‘Elvis’.
Mae’r wal hanesyddol ar yr A487 yn gofeb i un o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru, pan gafodd pentref Capel Celyn ei foddi yn 1965 i sicrhau cronfa ddŵr i Lerpwl.
Mae’r gofeb, a gafodd ei phaentio gan Meic Stephens (yn wreiddiol heb dreiglo enw’r lle), wedi cael ei fandaleiddio sawl gwaith yn y gorffennol.
Mae llun ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos y gofeb yn dwyn y gair ‘Elvis’.
Dychmygwch yr ymateb sa rhywun di neud hyn i’r Banksy yn Port Talbot… #yagym https://t.co/UljROVq7JN pic.twitter.com/xQBWu5HhgY
— Bolycs Cymraeg 🏴 (@BolycsCymraeg) February 3, 2019
Naaaaaaaaaa🤬 #CofiwchDryweryn https://t.co/nTXoCSEMms
— RhydianBowenPhillips (@RhydBowPhill) February 3, 2019
Iyffach. 😐 #Tryweryn #CofiwchDryweryn pic.twitter.com/9NTtya775s
— Alun J (@alunj92) February 3, 2019