Bydd Lleuwen Steffan a Gwilym Bowen Rhys ymhlith yr artistiaid fydd yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Mawr yn ardal Trawsfynydd dros y penwythnos.
Bydd perfformiad arbennig yn cael ei gynnal yng Nghapel Moreia, Trawsfynydd, ddydd Sul, gan gloi’r gyfres o ddigwyddiadau a gafodd eu cynnal gan Yr Ysgwrn, hen gartref Hedd Wyn, yn ystod tymor yr hydref.
Mae ‘O Lwyd i Liw’ yn cael ddisgrifio fel “plethiad o atgofion i ddeffro’r synhwyrau, barddoniaeth, alawon gwerin a hanes dau fachgen o Drawsfynydd a ddaeth adref o’r rhyfel”.
Ymhlith yr artistiaid eraill fydd yn perfformio mae’r actor Emlyn Gomer, Ysgol Bro Hedd Wyn, Côr Meibion Prysor, Côr Lliaws Cain a Chôr Eisteddfod Môn.
“Cyfle i gofio”
“Bydd y perfformiad yma’n cloi cyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Yr Ysgwrn dros yr Hydref i gofio canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf,” meddai Sian Griffiths, Rheolwr Prosiect Yr Ysgwrn.
“Bydd yn gyfle i gofio am yr holl fywydau a thalentau a gollwyd, a’r creithiau a adawyd ar deuluoedd a chymunedau ar hyd a lled Cymru.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Siwan Llynor a Mari Pritchard am drefnu’r perfformiad unigryw yma.”
Bydd y perfformiad yn dechrau am hanner awr wedi chwech yr hwyr, gyda mynediad am ddim.