Bydd gwaith artist o ogledd Cymru yn cael ei arddangos mewn gŵyl ryngwladol yn yr Eidal ym mis Medi.
Mae Rhian Hâf yn arlunydd gwydr o Wytherin ger Abergele, ac fe fydd ei harddangosfa, Cipio Eiliadau, yn rhan o Wythnos Wydr Fenis.
Mae’r digwyddiad yn gyfle i arlunwyr gwydr o ledled y byd arddangos eu gwaith, ac mae’n cael ei gynnal rhwng Medi 8 a 15.
Mae’r wythnos yn cyd-fynd â’r Biennale Bensaerniaeth yn Fenis, sydd hefyd yn denu arbenigwyr o bob cwr o’r byd.
‘Cipio Eiliadau’
Fe fydd gwaith y dylunydd o Glwyd ar gael i’w weld yn Campo San Stefano yn Fenis, sydd ar droed y Bont Accademia ar y ffordd i sgwâr San Marco.
Nod yr arddangosfa yw cyflwyno effeithiau golau trwy wydr, gan archwilio sut mae pobol yn rhyngweithio â’r amgylchfyd o’u cwmpas.
Mae’r dylunydd wedi gwneud defnydd o wydr clir, blychau gwylio a golau LED i amlygu hyn, ac mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys ffilm sy’n archwilio golau, lluniau gwreiddiol a ffotograffau.
“Rwy’n hynod o falch fod y gwaith wedi ei ddethol ar gyfer Wythnos Gwydr Fenis a bod fy ngwaith yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â nifer o ddylunwyr rhyngwladol yr wyf yn eu hedmygu,” meddai Rhian Hâf.