Fe fydd nosweithiau comedi stand-yp Cymraeg newydd sbon yn cael eu lansio yn Nhŷ Tawe, Abertawe nos Sadwrn nesaf (Ebrill 7) wrth i Stifyn Parri ddod â’i sioe un dyn, Cau Dy Geg i’r ddinas.
Sefyll Lan Dros Gymru yw menter newydd Yes Cymru Abertawe, cangen leol o’r mudiad sy’n ymgyrchu tros annibyniaeth i Gymru.
Mae’r lansiad yn dilyn blwyddyn o gigs Saesneg Stand Up For Wales yn y ddinas, ac yn cael ei drefnu mewn cydweithrediad â threfnwyr nosweithiau Tyrfe Tawe yng nghanolfan Gymraeg y ddinas.
Wrth lansio’r digwyddiad, dywedodd y trefnwyr: “Ar ôl blwyddyn lwyddiannus o gigs Saesneg o dan faner Stand Up For Wales, sydd wedi ein gweld yn trefnu gigs misol yn nhafarn y Schooner, Abertawe ac mewn amryw leoliadau eraill yn y de gan gynnwys IndyFest a chlwb Buffalo yn y brifddinas, rydym yn teimlo mai mis pen-blwydd Stand Up For Wales yn flwydd oed yw’r amser perffaith i lansio nosweithiau Cymraeg.”
Sioe Stifyn Parri
Fe fydd sioe Stifyn Parri yn cynnig cyfle i glywed casgliad o hanesion o’r byd adloniant, clecs gefn llwyfan am rai o sêr y West End a Hollywood – a hyd yn oed y teulu brenhinol!
Ymhlith y pynciau dan sylw ar y noson – sy’n ddi-sgript a’i gynnwys yn dibynnu i raddau helaeth ar ymateb y gynulleidfa – fydd profiad Stifyn Parri o ddod allan yn hoyw ar deledu cenedlaethol, ac yntau’n rhan o’r gusan hoyw gyntaf ar deledu yng ngwledydd Prydain.
Wrth edrych ymlaen at lansio Sefyll Lan Dros Gymru, dywedodd Stifyn: “Dwi’n chuffed iawn, iawn mai fi sy’n cael fy mwcio gynta’ i wneud y noson gomedi newydd yn Abertawe. Dwi’n edrych ymlaen yn arw, a gobeithio bod pawb yn barod am be’ dw i am ei ddweud!”
Ysbrydoliaeth
Cafodd Stifyn Parri ei ysbrydoli i greu’r sioe ar ôl gwylio rhaglen deledu Dawn French, lle’r oedd hi’n cyflwyno hanes ei bywyd ar ffurf sioe gomedi stand-yp.
“Dwi wedi cael cynnig sawl gwaith i sgwennu llyfr. Ond hefyd wnes i weld sioe gan Dawn French, sioe un person ac o’dd y sioe ychydig bach fatha autobiography a chomedi stand-yp. Wnes i weld honna a meddwl, ‘Dyna be dwi isio gwneud’.”
Yn hytrach nag “ysgrifennu” y sioe, mae Stifyn wedi mynd ati i’w chreu o gwmpas cyfres o luniau o’i fywyd. “Mae genna’i gychwyn, canol a diwedd ac mae genna’i lot o luniau sy’n bacio fyny bob stori sy’ gen i, gan bo fi wedi gweithio efo’r holl bobol yma, ac wedi bod yn y sefyllfaoedd mwya’ boncyrs!”
Yn ôl Stifyn Parri, mae’r sioe wedi cael derbyniad da mewn nifer o lefydd – o Gymru i Efrog Newydd.
“Mae’n wahanol lle bynnag dwi’n mynd ond dwi’n meddwl bod hynna’n digwydd beth bynnag pan dwi’n gwneud musicals a dramâu. Mae cynulleidfaoedd yn wahanol.”
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y noson drwy fynd i Facebook neu Twitter.