Bydd rhaid tanio’r dychymyg a’r corff cyn y bydd Cymru’n mynd yn wlad annibynnol, yn ôl y ddawnswraig amgen Eddie Ladd.
Roedd hi’n siarad â golwg360 yn ystod digwyddiad FfrinjFfest Yes Cymru Abertawe yn Nhŷ Tawe brynhawn dydd Sadwrn, lle’r oedd hi’n cynnal gweithdy ‘Cof y Corff’ am y berthynas rhwng annibyniaeth, hanes Cymru a’r corff.
Mae tipyn o waith y ddawnswraig yn canolbwyntio ar Gymru a’i hanes gwleidyddol ac mae’n dweud bod pob sioe hefyd yn ymwneud â “beth yw’n cyrff ni a beth yw’n dyfodol ni”. Ac mae hynny i raddau, meddai, am ei bod hi wedi penderfynu aros yng Nghymru i weithio.
“O’r dechrau, o’n i’n meddwl, ‘sdim lot o bwynt i fi fynd i unman arall achos pwy yw’r gynulleidfa? Dwi am ymdrin â’r gynulleidfa sy’ yma ac sy’n byw yng Nghymru. Dyw hynny ddim i ddweud bo fid dim yn gallu mynd â ’ngwaith dramor. Ond [dw i eisiau] aros yma a chyfrannu at y weriniaeth yma a ddaw, os ddeith hi o gwbl!”
Y gweithdy
Mae’r gweithdy ‘Cof y Corff’ yn gofyn i bobol ystyried sut mae hanes Cymru yn ei fynegi ei hun o fewn y corff a thrwy’r corff.
“Dw i’n ymwneud â 1277 a Llywelyn Ein Llyw Olaf. Dw i’n sôn am 1979 ac am Wrthryfel Owain Glyndŵr yn 1414. Ac felly dw i eisiau i bobol wneud bach o symud fel bo nhw’n gallu teimlo bod rhaid cryfhau eich corff.
“Mae’n wan ar brydiau, mae’n treulio ar brydiau, yn fertigol, yn unsyth. Felly trio cael pobol i gael ymwybyddiaeth o’r corff yn ein hanes ni.
“Ry’n ni’n deall bod ein cyrff yn gwneud pethau a chyrff sy’n gwneud hanes yn hytrach na’r gair yn y pen draw. Rhaid i chi fod yn bendant bo chi’n mynd i wireddu rhywbeth. Allwch chi ddim ond gwireddu rhywbeth yn gorfforol.
“Os nad y’ch chi’n gafael yn eich dyfodol yn gorfforol, fydd e ddim yn bod o gwbl.”
Diddordeb mewn annibyniaeth
Dywedodd bod ei diddordeb mewn annibyniaeth yn deillio o refferendwm aflwyddiannus 1979, pan bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli.
“Dw i’n siŵr mai dyna pryd oedd y syniad ynof fi am y tro cynta’ ei fod yn bosib [cael annibyniaeth]. O’n i’n bymtheg ar y pryd ac yn cofio siarad gyda ’mrawd a ’nhad a mam, siŵr o fod, am a ddylen ni gael annibyniaeth.
“Oedd e’n eitha’ siom ar y pryd achos o’n i’n teimlo fod e ddim yn mynd i fynd o’n plaid ni. Ers hynny, mae wedi bod yn rhan o’r ffordd dw i’n meddwl am bethau.”
Mae’n rhybuddio nad oes modd gweld y newid bach sy’n digwydd o ddydd i ddydd gan fod y niferoedd sydd o blaid annibyniaeth “yn weddol wastad, yn weddol isel”.
Ond mae’n dweud bod gobaith i Gymru yn sgil yr hyn ddigwyddodd cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014 a’r ymgyrch sydd ar waith yng Nghatalwnia.
“Yn ystod y cyfnod pan oedd yr Alban ar waith yn 2014, o’dd gyda chi’r argraff y gallai pethau newid yn sydyn iawn ac i’r gwrthwyneb a’i wyneb i waered yn glou iawn.
“Dim ond tanio sy’n rhaid i’r dychymyg ac mae pethau’n newid yn syfrdanol. Mae’r Alban a Chatalwnia a llefydd fel Corsica yn newid yr hinsawdd seicolegol, mewn ffordd, ac mae hwnna’n fwy hirbarhaus wedyn.”
‘Mwy na thrafod a rhannu gwybodaeth’
Tra bod Eddie Ladd yn croesawu’r cyfle i drafod a rhannu gwybodaeth am annibyniaeth mewn digwyddiadau fel FfrinjFfest, mae’n rhybuddio “nad trafod yw popeth”.
Ychwanegodd: “Bydden i’n ei chael hi’n anodd iawn trafod economeg â rhywun sydd yn erbyn annibyniaeth achos fyddai gyda fi ddim y ffeithiau i gael digon o ddealltwriaeth. Mae’n bwysig cael gwybodaeth a darlithoedd fel hyn. Ond nid trafod yw popeth.
“Mae Yes Cymru’n cadw’r nod yn fyw. Maen nhw efallai’n meddwl yn y tymor byr am sôn am hyn a hyn o achosion, ond annibyniaeth yw’r nod.
“Mae [digwyddiadau fel FfrinjFfest] yn creu awyrgylch lle mae hynny’n bosib yn ddychmygol. Os yw pobol yn anghofio, mae’n mynd yn rhywbeth wedyn allwch chi ddim ei ddychmygu.”