Mae cwmni Migrations am agor siop yn Wrecsam y flwyddyn nesaf fydd yn ‘gwerthu perfformiadau’.
Bydd dau artist, Michikazu Matsune o Japan a David Subal o Awstria, yn agor y siop dros dro ar stryd fawr Wrecsam, gan werthu perfformiadau celfyddydol i’r cyhoedd.
“Bydd pobl yn gallu dewis o restr o berfformiadau ac wedyn gallu prynu un a 20c neu rywbeth felly – ac yna bydd yr actorion yn perfformio iddyn nhw,” meddai Megan Broadmeadow sy’n gwneud gwaith hyrwyddo i gwmni Migrations.
“Maen nhw’n gwneud pethau gwahanol fel y Big Bang, maen nhw’n cael rôl o masking tape ac maen nhw’n mynd syth allan i’r stryd ac yn lapio pawb i fyny. Mae’n lot o hwyl a phawb yn gallu mwynhau,” ychwanegodd.
Eisoes mae’r prosiect wedi bod i Fangor, Vienna, Paris, Kyoto, Efrog Newydd ac fe fydd yn Wrecsam am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf.
“Mae’r cyhoedd wedi mwynhau yn arw hyd yma. Mae mor abstract ond mae hynny yn rili da achos mae’n tynnu sylw pobl. Mae pob math o bobl wedi bod i mewn i’r siop,” meddai Megan Broadmeadow.
“Mae Wrecsam angen mwy o bethau diddorol a gwahanol,” ychwanegodd cyn dweud fod y siopau perfformiadau yn apelio at bobl o bob oed.
Fe fydd y siop yn dod i Wrecsam am wythnos fis Ebrill nesaf.