Darn o gelf Mike Jones
Mae Oriel gelf yn Swydd Gaerloyw yn arddangos gwaith artistiaid o Gymru er mwyn hybu celf Gymreig.
Yn ôl perchennog Oriel Fosse yn Stow on the Wold, mae celf o Gymru yn llwyddo y tu hwnt i’r ffin.
“Dyma lle wnaeth yr arlunydd Gwyn Roberts ei sioe un dyn gyntaf hefyd – ac mi oedd e’n sell out, oedd yna lot fawr o ddiddordeb,” meddai Sharon Wheaton, perchennog yr Oriel sy’n dod yn wreiddiol o Ystradgynlais yng Nghwm Tawe.
Ac artist o’r un cwm fydd yn cael y cyfle cynta’ i werth ei waith mewn arddangosfa unigol yn yr oriel. Mae Mike Jones o Bontardawe yn adnabyddus am ei waith yn portreadu gweithwyr glo a dur a ffermwyr ei ardal. Mae’n dilyn arddull yr artist o Wlad Pwyl, Josef Herman, a ymsefydlodd yn Ystradgynlais.
“Dw i’n dod yn wreiddiol o Ystradgynlais,” meddai Sharon Wheaton sydd am barchu ei gwreiddiau Cymreig trwy ddangos gwaith rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru. “ac roedd fy nheulu i gyd yn siarad Cymraeg – ar wahân i finnau. Doedd fy rhieni ddim wedi fy magu trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Bydd yr arddangosfa yn oriel Fosse Gallery, Stow-on-the-Wold tan Fawrth 26
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 10 Mawrth