Mae manylion ar gyfer Gŵyl Ddawns Caerdydd eleni, wedi cael eu cyhoeddi’n swyddogol.
Mae’r ŵyl deuddeg diwrnod o hyd yn cael ei chynnal pob dwy flynedd ym mhrifddinas Cymru, ac eleni mi fydd yn cael ei chynnal rhwng Tachwedd 8 a Thachwedd 19.
Bydd perfformwyr a chwmnïau o Gymru, Prydain a thu hwnt yn cymryd rhan; ac mi fydd y perfformiadau yn cael eu cynnal mewn amryw o leoliadau yng Nghaerdydd.
Ymysg perfformiadau eleni bydd prosiect ‘Interruption’ sef darn ar y cyd rhwng artistiaid o Gymru ac India, a chynhyrchiad ‘BESIDE’ fydd yn cael ei berfformio yn yr awyr agored.
“12 diwrnod bendigedig”
“Mae’n rhagorol bod yn ôl gyda’r ail ŵyl,” meddai trefnydd rhaglen Gŵyl Ddawns Caerdydd Chris Ricketts.
“Cawsom ymateb anhygoel yn 2015 ac o ystyried ehangder yr arlwy mae’r rhaglen eleni yn teimlo’n gryfach fyth ac yn fwy rhyngwladol eto. Mae’n mynd i fod yn 12 diwrnod bendigedig o ddarganfod dawnsio rhyfeddol o bob cwr o’r byd.”
Mae’r ŵyl wedi’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mewn partneriaeth â Chapter, Cwmni Dawns Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.