Oscar Wilde (Llun: Twitter)
Mae portread maint llawn o’r awdur, Oscar Wilde, wedi’i arddangos am y tro cynta’ yng ngwledydd Prydain – a hynny drws nesa’ i ddrws y gell lle cafodd ei garcharu unwaith.
Fe gafodd ei ddedfrydu ar Fai 25, 1895, i dreulio dwy flynedd dan glo – ar ei ben ei hun ac i wneud gwaith caled – wedi ei gael yn euog o ymddygiad anweddus.
A nawr mae’r drws, o Garchar Reading, wedi’i osod ochr yn ochr â phaentiad o Oscar Wilde yn arddangosfa ‘Queer British Art’ yn amgueddfa Tate Britain – er mwyn nodi 50 mlynedd ers i gyfunrywiaeth gael ei ddad-griminaleiddio’n rhannol yn Lloegr a Chymru.