Mae artist ifanc o Fôn wedi defnyddio llun o’r dyn olaf i gael ei grogi yng Nghaernarfon yn ei gwaith sy’n cael ei ddangos am y tro cyntaf yn y dref heno.
Fe gafodd William Murphy ei ddienyddio yng Nghaernarfon yn 1910, am iddo lofruddio dynes yng Nghaergybi.
Daw’r artist ifanc Sarah Burnell o Gaergybi ac mae ei gwaith yn rhan o arddangosfa yn Galeri Caernarfon gan fyfyrwyr Celf Gain Coleg Menai. Mae gwaith gan ddeg o fyfyrwyr celf yn canolbwyntio ar Gaernarfon.
Dywedodd Sarah Burnell wrth golwg360 nad oedd eisiau creu darn o waith am bethau amlwg yn nhre’r Cofis.
“Roedd yn well gen i wneud rhywbeth nad oedd llawer o bobl yn gwybod amdano, yn hytrach na’r castell neu’r promenâd. Mi wnes i ychydig o ymchwil a dysgu am y llofruddiaeth,” meddai Sarah Burnell.
Byw tafliad carreg o safle’r llofruddio
Cafodd Gwen Ellen Jones ei llofruddio yng Nghaergybi gan William Murphy ar ddiwrnod Nadolig 1909.
Yn 1910 fe gafodd William Murphy ei grogi yn Nhŵr y Grocbren yng Nghaernarfon, lle mae maes parcio Pencadlys Cyngor Gwynedd heddiw.
“Mi roeddwn yn awyddus i gyfleu ochr dywyll Caernarfon yn fy ngwaith,” meddai Sarah Burnell, “ac mi’r oedd y digwyddiad hanesyddol hwn o ddiddordeb i mi, gan fy mod yn byw yn y stryd nesaf i’r man lle cafodd Gwen Ellen Jones ei llofruddio yng Nghaergybi.”