Un o ddarluniau Andrew Vicari, La Marianne (Llun: Wikipedia)
Mae artist o Bort Talbot, wnaeth baentio portreadau ar gyfer teulu brenhinol Sawdi Arabia, wedi marw.

Cadarnhaodd teulu Andrew Vicari fod y gŵr 84 oed wedi marw yn Ysbyty Tywysoges Cymru fore heddiw yn dilyn cyfnod o waeledd.

Mae’n debyg bod ganddo ffortiwn gwerth £92 miliwn a thai yn Cannes a Monte Carlo.

Yn fab i rieni Eidalaidd, cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd cyn astudio yn y Slade School of Fine Art yn Llundain o dan oruchwyliaeth Lucian Freud.

Fe aeth ymlaen i weithio fel artist swyddogol brenin a llywodraeth Saudi Arabia ac yn 2001, fe werthodd gasgliad o 125 o luniau Rhyfel Cyntaf y Gwlff i dywysog Sawdi Arabia am £17 miliwn.