Mae nifer o ddigrifwyr o Gymru’n perfformio’n fyw ar y we am 24 awr er mwyn codi arian iddyn nhw eu hunain a’r koala yn Awstralia.

Mae Lloyd Langford, Ignacio Lopez a Jenny Collier ymhlith 122 o ddigrifwyr o 30 o wledydd sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad sy’n cael ei gynnal yn fyw ar Zoom ac yn cael ei ffrydio ar wefannau cymdeithasol.

Tra bo digrifwyr wedi gweld eu gwaith yn dod i ben yn sgil gwarchae’r coronafeirws ar draws y byd, mae’r koala wedi gweld rhannau helaeth o’u cynefinoedd yn cael eu dinistrio gan y tanau mawr yn Awstralia eleni.

Ymhlith yr enwau mwya’ yn y digwyddiad mae Rosie Jones, Tiff Stevenson a Stuart Goldsmith, ac maen nhw i gyd yn perfformio yn eu cartrefi eu hunain gan gadw at reolau’r gwarchae ym mhob gwlad.

Fe ddechreuodd y digwyddiad am 3 o’r gloch fore heddiw ein hamser ni, ac fe fydd yn dod i ben am 3 o’r gloch bore fory.

Bydd yr holl berfformwyr yn derbyn hanner yr arian sy’n cael ei godi, ac elusennau sy’n gwarchod y koala yn Awstralia’n derbyn yr hanner arall.

Fis diwethaf, fe wnaeth y digrifwr Mark Watson, sy’n berfformiwr cyson yng ngŵyl gomedi Machynlleth, godi £45,000 drwy berfformio sioe unigol am 24 awr yn ddi-stop.