Fe wnaeth mwy o bobol nag erioed ymweld ag amgueddfeydd Cymru yn 2018-19, yn ôl ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi.
Daeth bron i 1.9m o ymwelwyr i un o saith amgueddfa’r wlad yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.
Mae hynny’n gynnydd 6.5% o’i gymharu â’r flwyddyn gynt – a’r nifer fwyaf mewn 112 o flynyddoedd.
Cafodd y ffigurau eu cyhoeddi yn ystod sesiwn i lansio adolygiad blynyddol Amgueddfa Cymru yn adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Hydref 23).
Mae lle i gredu bod ail-ddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ac ennill gwobr Amgueddfa’r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf, wedi cyfrannu at y niferoedd.
Datblygu model newydd
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn datblygu model newydd hynod ar gyfer amgueddfeydd,” meddai Roger Lewis, Llywydd Amgueddfa Cymru.
“Ein hamcan yw galluogi cynifer o bobol â phosib i fwynhau ac ymgysylltu â’n hamgueddfeydd ar draws Gymru. Cynhwysiant cymdeithasol a democratiaeth ddiwylliannol yw craidd ein gwaith.
“Mae projectau fel gweddnewid Sain Ffagan ac arddangosfa Kizuna: Japan | Cymru | Dylunio hefyd yn dangos fod amgueddfeydd cenedlaethol Cymru o bwys ar lwyfan ryngwladol.
“Rydym yn credu’n gryf bod Amgueddfa Cymru yn ganolog i fywyd yng Nghymru. Ein nod dros y 10 mlynedd a mwy nesaf yw datblygu’r sefydliad fwy fyth, gan ei droi yn gorff sy’n berthnasol i bobol Cymru ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd o weddill y Deyrnas Unedig a’r byd.”