It’s a Wonderful Life yw hoff ffilm Nadoligaidd pobol gwledydd Prydain, yn ôl arolwg newydd.
Fe lwyddodd y ddrama ffantasi, a gafodd ei rhyddhau yn 1946, i faeddu’r comedi Elf yn yr arolwg barn gan RadioTimes.com lle cafodd dros 7,000 o bobol eu holi.
Mae’r ffilm fuddugol yn cynnwys yr actorion James Stewart a Donna Reed, ac mae’n adrodd stori George Bailey, sef dyn sy’n helpu pobol eraill ac yn dod o hyd i ystyr bywyd ar ôl i angel ei rwystro rhag lladd ei hun.
Yn ail ar restr yr arolwg mae Elf, sy’n cynnwys yr actor Will Ferrell, gyda The Muppet Christmas Carol yn dilyn.
Ymhlith y ffilmiau eraill yn y deg uchaf mae Love Actually, Home Alone a Die Hard.
Yn ôl Tim Glanfield, golygydd RadioTimes.com, mae’r ffaith bod ffilm o 1946 ar y brig yn dangos nad yw ysbryd y Nadolig yn heneiddio.
“Mae ffilm sy’n llwyddo i ddal [yr ysbryd hwnnw] yn aros gyda ni am genedlaethau,” meddai.