Mae 20 o artistiaid wedi eu cyhoeddi ar gyfer Gŵyl y Llais ym Mae Caerdydd eleni.

Rhwng 4 a 7 Tachwedd, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, ac ymysg yr enwau o Gymru fydd yn perfformio mae Gruff Rhys, Ani Glass a Charlotte Church.

Hefyd, bydd cerddorfa Sinfonia Cymru hefyd yn perfformio gyda’r cyfansoddwr clasurol, Max Richter.

Artistiaid byd-enwog fel Brian Eno, Hot Chip a Tricky yw rhai o’r enwau amlycaf ar lein-yp y digwyddiad ym Mae Caerdydd eleni.

Cafodd Gŵyl y Llais ei lansio yn 2016 i’w chynnal bob yn ail flwyddyn, ac ers hynny, mae perfformwyr cyfarwydd fel Patti Smith, John Cale ac Elvis Costello wedi perfformio yno.

Doedd dim modd i’r ŵyl gael ei chynnal yn 2020 oherwydd pandemig Covid-19, felly cafodd ei gohirio tan fis Tachwedd eleni.

Yn ystod y pandemig, fe wnaeth y trefnwyr ddod ynghyd â threfnwyr gwyliau eraill yng Nghymru i gynnal ‘Gŵyl 2021’ ar blatfformau digidol.

“Dathlu” lleisiau o bob rhan o’r byd

Mae Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, yn edrych ymlaen at groesawu pobol yn ôl i’r Bae unwaith eto.

“Mae’n deimlad gwych i allu dod â Gŵyl y Llais yn ei hôl wedi cyfnod mor heriol yn ein bywydau,” meddai.

“Mae gennym ugain act anhygoel yn perfformio dros y pedwar diwrnod, ac mae’r ffaith y bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal ar lwyfan Theatr Donald Gordon, gyda’r gynulleidfa ar y llwyfan hefyd, yn ei gwneud yn wirioneddol arbennig ac agos-atoch.

“Rydym yn edrych mlaen at groesawu nifer o berfformwyr i Gaerdydd am y tro cyntaf, ac rwy’n awyddus iawn i gael cyfle i ddathlu a gwrando ar leisiau pwerus o bob rhan o’r byd eleni, a phob blwyddyn o hyn ymlaen.”

Mae tocynnau ar gyfer Gŵyl y Llais 2021 bellach ar gael ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru, yn ogystal â’r lein-yp llawn.