Dorothy Williams
Dorothy Williams o Lanbedr Pont Steffan yw enillydd cyntaf y gyfres goginio newydd Brwydr y Fwydlen ar S4C.
Y wobr ar gyfer ei phryd o fwyd buddugol ‘Tafod y Ddraig’, sef cig oen gyda llysiau a saws mwstard, fydd yn ymddangos ar fwydlen gwesty poblogaidd yr Harbourmaster yn Aberaeron.
“Doeddwn i ddim yn gallu credu mod i wedi ennill! Dyw pethau fel hyn ddim yn digwydd i fi,” meddai Dorothy. “Unwaith wnes i benderfynu fy mod i am fynd ar y rhaglen, roeddwn i’n benderfynol o wneud fy ngore a doeddwn i ddim ishe gadael neb lawr,” meddai.
Yn cystadlu yn erbyn Dorothy ar y rhaglen roedd Wayne Delve o Aberteifi ac Esyllt Roberts o Faenclochog. Roedd y tri yn gorfod paratoi eu bwyd yn erbyn y cloc ac yng nghegin broffesiynol bwyty yr Harbourmaster.
“Sai’n cofio lot am baratoi’r bwyd. Y cwbl wy’n cofio yw rhywun yn dweud bod dwy funud i fynd ac o’n i ffaelu credu’r peth!” meddai Dorothy.
Cynnyrch lleol
Wrth feirniadu, roedd perchennog y bwyty, Menna Heulyn a’r prif gogydd Kelly Thomas wedi eu plesio gyda’r ffaith bod Dorothy wedi defnyddio cynnyrch lleol.
“Oni’n meddwl bod cyfuniad da iawn o gynnyrch lleol meddai Menna, sydd wedi rhedeg gwesty’r Harbourmaster gyda’i gwr Glyn ers deng mlynedd.
Mae Dorothy yn edrych ymlaen yn fawr at gael mynd lawr i’r Harbourmaster yn Aberaeron i weld ei phryd buddugol ar y fwydlen.