Alun Davies
Mae Llywodraeth Cymru wedi annog trefnwyr gwyliau bwyd yng Nghymru i wneud cais i’r llywodraeth am grant.

Mae tua 40-50 o wyliau yn derbyn cymorth bob blwyddyn o’r rhaglen grant Gwyliau Bwyd, sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Derbyniodd tua 49 o wyliau bwyd gymorth grant yn 2010/11.

Ond ni fydd y cyllid ar gael i ychwanegu gwerth at ddigwyddiadau sy’n bodoli eisoes, megis marchnadoedd ffermwyr lleol.

Gwerth i’r economi leol

Dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd: “Bob blwyddyn mae gwyliau bwyd yng Nghymru’n cyfrannu miliynau o bunnau i’r economi ac maent yn elfen allweddol wrth hyrwyddo diwylliant bwyd cynyddol Cymru a rhoi ’naws o le’ i ymwelwyr.

“Boed yn fawr neu fach, mae gan bob gŵyl ei chymeriad arbennig ei hun, ond gydag un llinyn cyffredin – tynnu sylw’r cyhoedd at yr amrywiaeth wych o fwydydd a diodydd a gynhyrchir yng Nghymru.”

Y broses yn ‘tynhau’

Bu nifer o newidiadau sylweddol eleni i’r meini prawf ar gyfer ariannu gwyliau bwyd. Cafodd y meini prawf eu tynhau oherwydd cyfyngiadau cyllideb a nifer fwy o ymgeiswyr.

Cyhoeddir y canlyniadau yn yr wythnos yn dechrau 19 Mawrth yn dilyn ymgynghoriad gyda’r Panel Bwyd a Ffermio.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cynllun busnes a chyfrifon fel rhan o’r broses gais, ac mae’n rhaid i weithgaredd bwyd fod yn greiddiol i’r holl ddigwyddiadau sy’n cael cefnogaeth. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Chwefror, 2012.

Sut i wneud cais

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â  Rachel Coles, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Is-adran Datblygu Bwyd a’r Farchnad Llywodraeth Cymru ar 03000 622201 neu 07800 864157 neu anfon e-bost at rachel.coles@wales.gsi.gov.uk.