Rhwng 25 Mehefin a 3 Gorffennaf eleni bydd Wythnos Bysgod Sir Benfro yn codi ei ben unwaith eto eleni, dyma wythnos sydd dan ei sang gyda phob math o wahanol weithgareddau, a rhywbeth at ddant pawb.
Mae’r digwyddiad yn enillydd gwobr gwir flas ‘’Cyrchfan Twristiaeth Bwyd” a “Gwobr Prif Ddigwyddiad” Twristiaeth Sir Benfro 09/10, sydd yn dweud cyfrolau am lwyddiant a phoblogrwydd y digwyddiad.
Holl sail yr ŵyl yw “pysgod, ffynonellau bwyd, hwyl i blant, cerddoriaeth, arddangosfeydd coginio” meddai’r swyddog bwyd ac un o drefnwyr yr ŵyl, Kate Morgan, wrth Golwg360.
Plesio ystod o ddiddordebau
Mae’r digwyddiad yn ceisio “denu ystod eang o wahanol oedran” yn ogystal â cheisio plesio pawb gyda’r nifer wahanol o ddiddordebau, o kyakio i fwyta sushi! Y nod yw ceisio plesio’r rhai anturus ac egnïol yn ogystal â’r rhai sy’n angerddol tuag at wahanol fathau o fwydydd a ellir eu canfod dan donnau’r môr.
Ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos, sef y 25 Gorffennaf, bydd gwahanol stondinau i’w gweld yn Aberdaugleddau er mwyn dynodi diwrnod cyntaf y digwyddiad, a bydd modd blasu bwydydd newydd a phrynu cynnyrch o fusnesau lleol.
Yn ogystal, bydd digonedd o weithgareddau i ddifyrru’r plant gyda’r gwahanol gerddoriaeth, cyfle i wneud graffiti, reidiau a mwy.
200 o ddigwyddiadau
Yna ar hyd yr wythnos cynhelir hyd at 200 o ddigwyddiadau ar hyd a lled Sir Benfro, oll yn cael eu cynnal gan fusnesau lleol.
Bydd cyfle i flasu gwin, dysgu sut i bysgota a bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn trefnu digwyddiad, heb sôn am yr holl fusnesau eraill fydd yn ceisio ateb eich gofynion wrth “ddangos rhinweddau gorau Sir Benfro’ i’r cyhoedd”.
Digwyddiad na ddylid ei golli felly.