Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr wythnos hon, mae Siôn Tomos Owen, yr arlunydd, cyflwynydd teledu a radio, awdur, a bardd yn rhannu ei atgofion bwyd. Mae e’n byw yn y Rhondda gyda’i deulu…

Pethau melys yw fy atgofion cyntaf o fwyd.  Mae ’na lun ohona’i yn joio hufen iâ fel bachgen bach a dw i’n cofio dal y cornet yn fy llaw ac yna’n llyfu’n araf.  Doedden i’m yn cael llawer o siwgr fel plentyn felly yn amlwg roedd y llyfiad cyntaf yna fel roced ac, yn ôl Mam a Dad, es i bach yn bananas am chydig ar ôl ‘nny!  Hefyd mae Dad yn hoff iawn o ddweud y stori am y tro gofynnes i am hufen iâ ar pier Bangor.  Mynnes i bo fi moyn hufen iâ siocled er bo Dad yn f’atgoffa mod i ddim yn hoffi blas hufen iâ siocled.

“Ond fi moyyyn hufen iâ siocled!”

Ar ôl cwyno a chweryla, nath Dad o’r diwedd prynu un siocled i mi, llyfes i a dweud: “Fi ddim yn hoffi hufen iâ siocled,” cyn taflu’r hufen iâ i’r gwylanod.  Roedd bron i Dad daflu fi i’r gwylanod ‘fyd!  A dw i dal ddim yn hoffi hufen iâ siocled.

Siôn Tomos Owen yn blentyn

Mae un digwyddiad mewn carafán yn sefyll mas yn fy nghof lle ro’n i’n credu bo fy rhieni yn trio bwydo bwyd cath i fi – ond tun o tiwna oedd e!  Un o fy nghas fwydydd yw tiwna mayonnaise – dw i ddim yn hoffi’r arogl, y blas na’r sŵn mae’n gwneud wrth ei greu.

Mae mor od i feddwl yn ôl nawr gan mod i’n hoff o drio bob math o fwydydd weird hefyd ond pan oedden i’n fach roeddwn i’n fussy iawn. Roedd Mam a Dad yn mynd yn wallgo’ achos bysen i ddim hyd yn oed yn trio bwyd newydd.

Ond daeth y troad pan es i ar brofiad gwaith yn Blwyddyn 10 i Lanfair ym Muallt.  Roedd yn rhaid i fi aros mewn B&B ac ro’n i’n cael brecwast a swper yno, a chinio gyda saer coed.  Dw i’n dal i gredu bod Mam wedi rhoi rhestr o’r bwydydd gwaethaf i’r B&B i goginio i fi am yr wythnos yna – ges i afu a winwns, tiwna mayonnaise bake, cawl stilton a brocoli, a treip. Er mwyn osgoi llwgu ac i beidio bod yn amharchus, bwytes i bob pryd ond wnes i ddim anadlu trwy fy nhrwyn fel bo fi ddim yn gorfod ei flasu – tric wnes i ddefnyddio am flynyddoedd ar ôl ‘nny i blesio fy rhieni!  Sai’n gwybod sut na phryd newidies i hoffi’r bwydydd ond falle wnes i anghofio mod i ddim yn hoffi rhai pethe ac yna dechrau eu bwyta am bleser. Ond am y tiwna mayonnaise…

Mam, Dad a Mam-gu wnaeth ddysgu gwahanol elfennau o goginio i mi.  Roedd Mam-gu yn draddodiadol iawn a hi ddysgodd pethau fel teisen Victoria Sponge a chawl i mi, roedd Dad yn llysieuwr am gyfnod (a newydd neidio nôl ar y wagon yn ddiweddar) a hefyd roedd yn hoff iawn o fwydydd Indiaidd felly jôc y teulu oedd ei fod mond yn gwybod sut i goginio reis a dahl achos ‘na beth roedden i’n cael os taw tro Dad oedd e.  Yna roedd gan Mam ryseitiau teuluol fel “Teisen Anti Niwr” a’r ffordd roedd hi’n gwneud grefi cinio dydd Sul.  Dw i’n cofio hi’n dangos rhain i fi mewn llyfr bach gyda’i llawysgrifen drosto cyn i mi fynd i ffwrdd i’r brifysgol fel math o “rights of passage“.

Pizza Siôn Tomos Owen

Dw i’n obsessed gyda bwyd Eidalaidd. Tasen i’n gallu se’n i’n bwyta pasta a pizza bob dydd.. a dw i bron iawn yn, a bod yn onest.

Traddodiad teuluol wythnosol ni yw Nos Sadwrn Pizza a ffilm.  Prynes i ffwrn pizza ‘Ooni’ nwy yn y clo mawr a dw i heb ddifaru o gwbl.  Dw i’n dwli arno fe, a’r holl broses o greu’r pizzas.  Dw i’n gwneud y toes diwrnod neu ddau cyn, ac yna’n gwneud popeth ar y noson, y sôs a’r selsig ffenigl melys.  Dwi ’di darganfod y toes perffaith nawr gan ddefnyddio rhywbeth o’r enw Diastatic Malt a Dŵr Mwg y dderwen gan Halen Môn.  Mae’n rhoi blas mor unigryw i’r toes. Y drafferth nawr yw dw i di sbwylio’n hunan erbyn hyn achos dw i heb ffeindio un pizza o’r siop sy’n cymharu ‘da rhai fi ac yn diflasu os dw i’n anghofio gwneud y toes ac yn gorfod bwyta pizza arferol.

Mae dau ginio Dolig yn sefyll mas, un yn fy arddegau hwyr lle prynodd mam capon yn lle twrci, ac roedd e’n anhygoel.  Yna cinio Dolig eto pan wnes i wneud “sbrowts next lefel” Chris “Flamebaster” Roberts am y tro cyntaf, lle chi’n ffrio nhw’n sych yna’n ychwanegu garlleg, brwyniaid a menyn a dripio fe drostyn nhw wrth iddyn nhw ffrio.  Ffrwydrodd fy synhwyrau, ac ers ‘nny dw i di neud nhw bob cyfle dw i’n cael.

Bwyd mor

Y pryd gore mewn bwyty oedd pan oedden ni ym Mhortiwgal.  Dw i’n dwli ar fwyd môr ac ar ein hail wyliau gyda’n gilydd, wnaeth fy ngwraig a fi safio digon o arian i fwyta mas bob nos ac aethon ni i le oedd yn chware miwsig Mariachi. Wnes i ordro “Blas y môr” a photel o win a dewisodd fy ngwraig gig oen a Coke.  Daethon nhw a bwyd fy ngwraig mas, yna daethon nhw a un fi mas ar droli ac mi wnaeth dau weinydd godi’r plât anferth arian yma oedd yn llawn cimwch, tri math o gorgimychiaid, cranc, wystrys, cerrig gleision, cocos a sparkler yn y canol.  Daeth y cantorion Mariachi draw r’un pryd a gofyn os oedden ni’n dathlu ein priodas?

Na.

Pen-blwydd?

Na.

Dathlu unrhyw beth?

Na, atebais, dim ond dyn sy’n hoff iawn o’i fwyd!

Siôn Tomos Owen gyda’i wraig

Ges i Taste – Stanley Tucci fel anrheg Dolig llynedd a dw i wedi gwylio’r ddwy gyfres Searching for Italy ar iPlayer ac ers ‘nny dw i di bod yn ceisio creu bob pryd dw i wedi gweld. Bob amser cinio pan dw i’n gweithio gartref dw i’n creu rhyw fath o bryd bach pasta. Yr un dw i’n ceisio ei wneud a dal heb gael yn iawn yw’r un fwyaf syml, Spaghetti alla Nerano, sef Spaghetti gyda dim ond corbwmpenni neu Zuccini, fel maen nhw’n galw nhw yn y gyfres.  Chi’n deep fat ffrio’r corbwmpenni yna’n gadael nhw yn yr oergell dros nos, yna’n twymo nhw lan gydag ychydig o fenyn a dŵr pasta a dyna fe! Mae’n anhygoel o flasus a dim ond tri chynnwys.

Llyfr rysieitau Anti Niwr

Ond o ran rysáit teuluol, yr un sy’n sefyll mas mwy nag unrhyw un arall yw “Teisen Anti Niwr” mae Mam yn neud. Dw i’n gwbl hopeless yn ceisio ei gwneud.  I fod yn onest sai’n foi teisenni o gwbl OND am “Deisen Anti Niwr” Mam.

Bydd Siôn Tomos Owen i’w weld yn y gyfres newydd o Cynefin sy’n dechrau nos Sul, 26 Mawrth ar S4C am 8yh