Mae eleni yn garreg filltir i gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru, gyda’r cyhoeddiad fod y nifer mwyaf erioed o gynhyrchion o Gymru wedi derbyn meincnod Great Taste.
Fe roddodd The Great Taste sy’n feincnod cydnabyddedig ar gyfer bwyd a diod arbenigol, wobr 3-seren i ddeg cynnyrch o Gymru, o gymharu â thri y flwyddyn gynt.
Aeth cyfanswm o 174 o wobrau Great Taste i gynhyrchion o Gymru eleni, ac enillodd 122 o gynigion 1-seren, derbyniodd 42 o gynhyrchion 2-seren, gyda deg cynnyrch yn deilwng o gydnabyddiaeth 3-seren.
Gwelwyd cynnydd o 25% yn nifer y cynigion o Gymru yng nghystadleuaeth eleni, yn codi o 99 cwmni yn cynnig 374 cynnyrch yn 2014 i 143 cwmni yn cyflwyno 491 cynnyrch i’w hystyried yn 2015.
Bydd llawer o arddangoswyr o Gymru yn dathlu’r cyhoeddiad wrth iddynt fynychu’r ffair fwyd Speciality Fine Food a gynhelir yr wythnos nesaf.
Camau breision
Wrth gyfeirio at y llwyddiant dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans, “Mae’r ffaith fod y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr o Gymru wedi ennill 3 seren eleni yn tystio ein bod wedi cymryd camau breision ymlaen ac wedi codi proffil ein gwlad a lledaenu enw da Cymru ym maes bwyd a diod.”
“A’r gwobrau hyn yn cael eu beirniadu yng Nghymru am y tro cyntaf, cawsom gyfle gwych i arddangos y gorau o’n cynnyrch Cymreig ni,” meddai wedyn.
“Ond yn fwy na hynny mae’r gwobrau hyn yn rhoi sbardun i’n cwmnïau ni lwyddo’n well byth yn y dyfodol ac mae’n rhoi’r hygrededd i ni gyflwyno Cymru fel cyrchfan fwyd i’w chymryd o ddifri.
“Bydd hyn yn rhoi hwb inni gyflawni ein targed uchelgeisiol i sicrhau 30% o dwf yn y sector bwyd a diod erbyn 2020, a dod â £7 biliwn i mewn i’r economi.”
Enillwyr
I weld rhestr gyflawn o enillwyr Great Taste 2015, ewch i’r wefan.