Mae Cymru’n gobeithio am y gorau yng nghwpan coginio’r byd yn Luxembourg y penwythnos hwn.

Fe fydd y tîm yn gadael Gogledd Cymru i ymuno â 25 o wledydd gwahanol eraill yn y gystadleuaeth fawr sydd wedi’i rhannu’n ddwy ran – bwrdd bwyd poeth, a bwrdd bwyd oer bwffe.

Mae’r cogyddion o Gymru’n cystadlu yn y ‘gegin boeth’ nos Sul drwy goginio cwrs tri phryd i 110 o giniawyr. Yna, fe  fyddan nhw’n creu bwffe oer wedi’i selio ar themâu castell canoloesol ddydd Mawrth. Canolbwynt bwffe tîm Cymru fydd draig goch wrth gastell wedi’i amgylchynu â bwyd.

Wythnos diwethaf, fe wnaeth cogyddion dderbyn negeseuon pob lwc oddi wrth garfan Rygbi Cymru wrth iddyn nhw ymarfer eu bwydlen Cwpan y Byd am y tro olaf.

Mae wedi bod yn flwyddyn rwystredig i’r cogyddion – a fethodd a chystadlu mewn cystadleuaeth fawr yn Singapore fis Ebrill ar ôl i lwch o losgfynydd Gwlad yr Ia  rwystro awyrennau rhag hedfan.

‘Paratoi yn iawn’

Mae rheolwr tîm Cymru, Graham Tinsley sy’n un o berchnogion The Castle Hotel yng Nghonwy’n obeithiol fod gan y tîm yr holl sgiliau angenrheidiol i lwyddo yn y gystadleuaeth.

“Rydan ni’n teimlo ein bod ni wedi paratoi yn iawn gan ein bod yn segur ers wyth mis.

“Rydan ni wedi gwella rhai o’r dysglau roedden ni eisoes wedi’u creu ar gyfer  Singapore ac mae’r cyfan ohonynt yn wych bellach gyda digon o flas,” meddai.

Fe ddywedodd y rheolwr hefyd fod Lwcsembwrgwedi bod yn garedig gyda’r criw yn y gorffennol” a’u bod wedi ennill medalau aur yno ddwywaith o’r blaen.

Mae yn cael nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Llun: Graham Tinsley, Rheolwr tîm Cymru