Mae canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn dathlu ei phen-blwydd cyntaf ar ôl croesawu dros 200,000 o ymwelwyr a gweini 57,800 o baneidiau yn ystod ei blwyddyn gyntaf.

Fe gafodd y ganolfan yn Nyffryn Conwy ei hagor gan Dywysog Cymru a Duges Cernyw yng Ngorffennaf 2012 ac mae’n gwerthu dros 700 o gynnyrch, yn gartref i siop fferm, ysgol goginio, cigydd, becws a llaethdy.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y ganolfan, Chris Morton: “Rydyn ni wedi datblygu ein gwasanaethau dros y flwyddyn ac rydyn ni’n bwriadu datblygu ymhellach dros y 12 mis nesaf. Mae’n tȋm o 84 o staff wedi gweithio’n hynod o galed wrth i ni sefydlu’r gwaith, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi cyflogi 97% o’r tȋm yn lleol.”

Ychwanegodd Neville Jones, Rheolwr Datblygu Busnes Bwyd Cymru: “Rydyn ni’n gweld cwsmeriaid lleol teyrngar yn mwynhau’r arlwy o fwyd sydd gan Gymru i’w chynnig, ac rydyn hefyd wedi croesawu cwsmeriaid o eithafion Ffrainc, Siapan a’r Almaen.”

Mae’r ganolfan yn bwriadu agor siop win newydd a fydd yn gwerthu gwinoedd o Gymru a Phatagonia yn ogystal â chynnal nifer o ddigwyddiadau gwahanol megis gŵyl hufen iâ a ffrwythau’r haf.