Wedi 70 o flynyddoedd yn arwain y Deyrnas Unedig, wrth deithio i sawl gwlad arall ar draws y byd yn ystod ei gyrfa, mae Elizabeth II, Brenhines Lloegr, yn gwneud ei thaith olaf tuag at Abaty Westminster.

Yno y bydd ei chorff yn gorffwys ar gyfer angladd gwladol ar ddydd Llun, Medi 19 am 11yb ac yna, mi fydd ei chorff yn cael ei gludo i Gastell Windsor ac i Gapel St George, lle bydd yn gorwedd yn dilyn yr angladd.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi cyhoeddi y bydd y diwrnod yn Ŵyl Banc, wrth ddatgan y byddai’n gweithio fel unrhyw ŵyl banc cyffredin arall.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gosod canllawiau wrth drafod yr hyn fydd yn digwydd o ran ysgolion yn ystod y cyfnod yma o alaru, sef y  bydd “disgwyl i ddisgyblion fynychu’r ysgol fel arfer yn ystod y cyfnod o Alaru Cenedlaethol, ac eithrio ar yr Ŵyl Banc”, ac “nid oes disgwyl i ysgolion aros ar agor ar yr Ŵyl Banc” ac y “dylai gael ei thrin fel unrhyw Ŵyl Banc arferol”.

Yn dilyn y cyhoeddiadau hyn, mae Prif Swyddog Addysg Ceredigion wedi cadarnhau mewn llythr at brifathrawon y bydd ysgolion y sir ynghau ar ddydd Llun, Medi 19 fel arwydd o barch at y Frenhines a’i gwaith hir dros y Deyrnas Unedig.

Mae archfarchnadoedd mwyaf y Deyrnas Unedig hefyd yn bwriadu cau ar ddiwrnod yr angladd er mwyn dangos parch.

Mi fydd banciau a Swyddfa’r Post hefyd ynghau yn ystod y dydd.