Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn dros 100 o argymhellion ar gyfer newid enwau llefydd yn y sir.

Yn dilyn y newidiadau, bydd gan bob tref a phentref “un ffurf safonol” yn hytrach na “sillafiadau amrywiol,” yn ôl adroddiad.

Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnig yr argymhellion ar ôl ymgynghori â chymunedau ar ffurfiau mwy safonol er mwyn cael cydbwysedd.

O dan y newidiadau, bydd nifer o enwau, fel Aberarth a Phenrhyncoch, yn cael cysylltnod yn y canol, gan droi yn Aber-arth a Phenrhyn-coch.

Mae enwau eraill fydd yn newid yn cynnwys Y Borth (o Borth), Pontsiân (o Pontsian), a Llanwnnen (o Llanwnen).

Er i’r Comisiynydd awgrymu y dylid gwneud hynny, fydd Bronant a Llanon ddim yn newid, ar ôl i’r Comisiynydd gynnig Bronnant a Llan-non.

Roedd cymuned Ceinewydd hefyd wedi dymuno newid yr enw i Cei Newydd, i adlewyrchu’r enw Saesneg, ond doedd y Comisiynydd ddim yn cytuno efo hynny.

Adroddiad

Fe nododd yr adroddiad, a gafodd ei gyflwyno i bwyllgor iaith Cyngor Ceredigion yn ddiweddar, bod “anghysondeb” wedi bod yng nghofnodion swyddogol y cyngor o enwau llefydd.

“Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg gyfrifoldeb i ddarparu argymhellion ar y ffurfiau safonol ar enwau lleoedd Cymraeg,” meddai’r adroddiad.

“Nod y prosiect yw sicrhau cysondeb a chywirdeb ledled Cymru.

“Mae anghysondeb mewn enwau lleoedd yng Ngheredigion – mewn llawer o achosion mae’r enwau sy’n cael eu cofnodi yn y Gazetteer – cofnod swyddogol y cyngor – yn wahanol i’r rhai ar yr arwyddion presennol, ac mewn rhai achosion, mae hefyd yn wahanol i’r Cyngor Cymuned.”

Bydd yr argymhellion yn cael eu hystyried unwaith eto gan y cabinet cyn cael eu gwneud yn swyddogol.

Newidiadau

Dyma restr o’r holl newidiadau (sillafiadau newydd ar y dde):

  • Aberarth – Aber-arth
  • Aberbanc – Aber-banc
  • Abermad – Aber-mad
  • Aberffrwd – Aber-ffrwd
  • Aberporth – Aber-porth
  • Adpar – Atpar
  • Banc Y Darren – Banc-y-darren
  • Blaen-cil-llech – Blaencil-llech
  • Blaennanerch – Blaennannerch
  • Blaenporth – Blaen-porth
  • Blaenplwyf – Blaen-plwyf
  • Bontgoch – Bont-goch
  • Borth – Y Borth
  • Brongwyn – Bron-Gwyn
  • Bryngwyn – Bryn-Gwyn
  • Brynteg – Bryn-teg
  • Bwlchllan – Bwlch-llan
  • Bwlch y Groes – Bwlch-y-groes
  • Capel Betws Lleucu – Capel Betws Leucu
  • Cefn Llwyd – Cefn-llwyd
  • Cei Bach – Cei-bach
  • Cnwch Coch – Cnwch-Coch
  • Coed y Bryn – Coed-y-bryn
  • Comins Coch – Comins-coch
  • Craig y Penrhyn – Craig-y-penrhyn
  • Croeslan – Croes-lan
  • Croesyllan – Croes-y-llan
  • Cwm Cou – Cwm-cou
  • Cwmsychpant – Cwmsychbant
  • Dihewid – Dihewyd
  • Dolybont – Dôl-y-bont
  • Drefach – Dref-fach
  • Egwlysfach – Eglwys-fach
  • Felinfach – Felin-fach
  • Felinwynt – Felin-wynt
  • Ffair Rhos – Ffair-rhos
  • Ffos y Ffin – Ffos-y-ffin
  • Ffynnon Oer – Ffynnon-oer
  • Gilfachrheda – Gilfachreda
  • Glanwern – Glan-wern
  • Gorsgoch – Gors-goch
  • Llanarth – Llannarth
  • Llandyfriog – Llandyfrïog
  • Llanfihangel y Creuddyn – Llanfihangel-y-Creuddyn
  • Llangynfelin – Llangynfelyn
  • Llanwnen – Llanwnnen
  • Llundainfach – Llundain-fach
  • Llwyngroes – Llwyn-y-groes
  • Maescrugiau – Maesycrugiau
  • Maesllyn – Maes-llyn
  • Neuaddlwyd – Neuadd-lwyd
  • Pantycrug – Pant-y-crug
  • Parcllyn – Parc-llyn
  • Penbontrhydbeddau – Pen-bont Rhydbeddau
  • Penparc – Pen-y-parc
  • Penrhiwllan – Penrhiw-llan
  • Penrhiwpal – Penrhiwpâl
  • Penrhyncoch – Penrhyn-coch
  • Pentrebach – Pentre-bach
  • Pentregat – Pentregât
  • Pentrellwyn – Pentre-llwyn
  • Pentre’r Bryn – Pentre’r-Bryn
  • Penuwch – Pen-uwch
  • Pont Ceri – Pontceri
  • Pont Creuddyn – Pontcreuddyn
  • Ponthirwaun – Pont-hirwaun
  • Pontrhydygroes – Pomt-rhyd-y-groes
  • Pontsian – Pontsiân
  • Prengwyn – Pren-gwyn
  • Rhyddlan – Rhuddlan
  • Rhyd-Rosser – Rhydroser
  • Talsarn – Tal-sarn
  • Talybont – Tal-y-bont
  • Tanygroes – Tan-y-groes
  • Trawscoed – Trawsgoed
  • Tregroes – Tre-groes
  • Tre’r Ddol – Tre’r-ddôl
  • Tremain – Tre-main
  • Troedyraur – Tored-yr-aur
  • Ty’n y Graig – Tyn-y-Graig
  • Ty’n-yr-Eithin – Tyn’reithin
  • Tyngrug-isaf – Tyn-grug-isaf
  • Ynyslas – Ynys-las
  • Ystrad Aeron – Ystradaeron
  • Ystrad Fflur – Ystrad-fflur
  • Ystrad Meurig – Ystradmeurig