Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi’r lluniau cyntaf o’u Canolfan Addysg Milfeddygaeth newydd gwerth £2 miliwn, a agorodd am y tro cyntaf eleni.

Dyma yw unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol drwy Gymru, ac fe ddechreuodd y myfyrwyr cyntaf ar radd bum mlynedd ym mis Medi eleni.

Bydd myfyrwyr yn treulio dwy flynedd o’r radd yn y ganolfan ar gampws Penglais yn Aberystwyth, cyn trosglwyddo i’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn Swydd Hertford.

Hefyd, mae agweddau o’r cwrs ar gael i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chefnogaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae rhaglen y radd yn cwmpasu ystod lawn o greaduriaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm, yn debyg i raglenni milfeddygol eraill yn y Deyrnas Unedig.

Yn rhan o’r ganolfan a’r cyfleusterau dysgu newydd mae cyfleusterau anatomi ac astudio, a gafodd eu hariannu drwy gyfuniad o roddion gan gyn-fyfyrwyr a chronfeydd y Brifysgol.

‘Hynod gyffrous’

Mae’r Ysgol newydd yn adeiladu ar dros 100 mlynedd o addysgu ac ymchwilio ym maes iechyd anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac fe gafodd y radd BSc Biowyddorau Milfeddygol ei gyflwyno yn llwyddiannus ym mis Medi 2015.

“Mae ymrwymiad y staff a’r myfyrwyr yn ein blwyddyn gyntaf wedi bod yn arbennig,” meddai’r Athro Darrell Abernethy, Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol.

“Mae agor yr Ysgol a’r cyfleusterau newydd yn hynod gyffrous i ni i gyd. Mae ymdrechion a chefnogaeth cymaint o bobl a sefydliadau wedi arwain at hyn – diolch o galon i bawb.

“Wedi cymaint o waith caled gan staff ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn paratoi ar gyfer dechrau’r cwrs, mae’n deimlad gwych bod y myfyrwyr nawr wrthi’n astudio.

“Maen nhw’n elwa’n fawr o sgiliau’r tîm staff newydd a’r buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau newydd.”

Yn ogystal â’r cyfleusterau newydd ar gampws Penglais, bydd myfyrwyr hefyd yn astudio yn y labordai IBERS, sydd wedi eu lleoli yng Ngogerddan, a Chanolfan Geffylau Lluest ar gampws Llanbadarn.