Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd cyfleuster ymchwil clinigol newydd yn cael ei agor.

Bydd y cyfleuster ar gampws Penglais yn bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a bydd yn ganolbwynt i staff gydweithio ar addysg, ymchwilio ac arloesi.

Mae’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd wedi arwyddo Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth, sy’n cynnig fframwaith ar gyfer cynlluniau addysg ar draws siroedd yr hen Ddyfed, a bydd y ganolfan newydd yn rhan o hynny.

Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd newydd a fydd yn barod ar gyfer myfyrwyr nyrsio cyntaf Prifysgol Aberystwyth fis Medi nesaf.

Cryfhau perthynas

Mae’r Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn “edrych ymlaen” at gyflawni’r datblygiad.

“Rydym yn falch iawn o fod yn cryfhau ein perthynas gyda’r Bwrdd Iechyd,” meddai.

Ers cryn amser, bu ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda ar fentrau i wella darpariaeth gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig ac effeithiau cadarnhaol ymarfer corff ar iechyd gan gynnwys gwaith helaeth ar glefyd siwgr ac ati.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y gwaith hwn.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ni, wrth i ni baratoi i groesawu ein myfyrwyr nyrsio cyntaf i’r radd nyrsio newydd yma yn Aberystwyth ym mis Medi 2022.

“Ynghyd â’r cytundeb newydd gyda’r Bwrdd Iechyd, mae’r datblygiad hwn yn dod ar drothwy cyfnod newydd o gydweithredu sydd â’r potensial i esgor ar ddatblygiadau sylweddol i’r gymuned leol a mynd i’r afael â rhai o’r heriau a ddaw yn sgil darparu gofal iechyd mewn ardal wledig.”

‘Dechrau pennod nesaf’

Mae Dr Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, hefyd wedi cyffroi o weld y datblygiad yn dwyn ffrwyth.

“Mae’r Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth newydd hwn yn ymwneud ag ailddatgan ein hymrwymiad i weithio’n agos gyda Phrifysgol Aberystwyth er budd iechyd a lles ein rhanbarth,” meddai.

“Mae’r ganolfan addysg newydd a’r cynnydd yn y cysylltiadau ymchwil ac arloesi yn nodi dechrau pennod nesaf a chyffrous ein partneriaeth.

“Rydyn ni hefyd yn awyddus i sefydlu cysylltiadau newydd gyda datblygiadau cyffrous eraill rydyn ni wedi’u gweld yn y Brifysgol, gan gynnwys ArloesiAber.”