Mae Cyngor Caerdydd ar fin trosglwyddo’r allweddi i’r Hen Lyfrgell a’r Eglwys Norwyaidd.
Mae angen cryn waith cynnal a chadw ar y ddau adeilad hanesyddol – a byddant yn cael eu prydlesu i arbed arian i’r Cyngor.
Bydd yr Hen Lyfrgell, yn yr Ais yng nghanol Caerdydd, yn cael ei chymryd drosodd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Bydd yr Eglwys Norwyaidd, ym Mae Caerdydd, yn cael ei chymryd drosodd gan elusen newydd dan arweiniad Cymdeithas Norwyaidd Cymru.
Gallai newidiadau sydd i ddod weld llawer o’r Hen Lyfrgell yn cael ei throi’n fannau cerddoriaeth a pherfformio, tra’n cadw’r ganolfan Gymraeg ac Amgueddfa Caerdydd.
“Cynlluniau cyffrous iawn”
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr aelod cabinet dros ddiwylliant a hamdden: “Mae’r rhain yn gynlluniau cyffrous iawn ar gyfer dyfodol yr Hen Lyfrgell, tra’n parhau i fod yn gydymdeimladol â hanes a thraddodiad yr adeilad.
“Bydd hyn yn hwb enfawr i’r celfyddydau perfformio ac yn ategu’n berffaith Amgueddfa bresennol Caerdydd a Neuadd Dewi Sant gerllaw, gan greu canolbwynt ar gyfer creadigrwydd a diwylliant yng nghanol y ddinas.
“Mae Cymdeithas Norwyaidd Cymru eisoes wedi sicrhau rhywfaint o arian ac am fynd ati i geisio cyllid pellach os caiff y trosglwyddiad ei gytuno. Mae’r Gymdeithas yn deall gwerthoedd traddodiadol yr Eglwys Norwyaidd ac yn bwriadu buddsoddi yn yr adeilad a’i wella tra’n anrhydeddu ei nodweddion a’i hanes.”
Agorodd yr Hen Lyfrgell yn 1882. Mae rhan o’r adeilad ar brydles i Virgin Money ar hyn o bryd.
Roedd problemau blaenorol yn yr adeilad yn cynnwys lifft diffygiol, a arweiniodd at y gwasanaeth tân yn gorfod helpu pobol a oedd yn sownd y tu mewn iddo.
Roedd yr Athro Helena Gaunt, pennaeth y Coleg Brenhinol yn dweud fod addysg a chymuned yn rhan o sylfeini’r “perl pensaernïol.”
“Gan symud yr hanes hwnnw i’r dyfodol, rydyn ni’n bwriadu dod â’r gofod yn fyw gyda cherddoriaeth, drama, ac amryw o berfformiadau byw fel magnet i bobol leol.
“Mae’n teimlo fel ffit berffaith ar gyfer Caerdydd fel ‘Dinas Cerddoriaeth’.
“Bydd unrhyw un sy’n mynd heibio ein campws presennol ym Mharc Bute yn gwerthfawrogi’r hud o glywed cerddoriaeth yn arllwys drwy ffenestri agored – bydd yr hud hwnnw nawr yn nodwedd o ganol y ddinas.”
Elusen
Cafodd yr Eglwys Norwyaidd ei hadeiladu yn 1868, fel man addoli i’r llongwyr o Norwy a ddaeth i Fae Caerdydd.
Roedd pryderon ddwy flynedd yn ôl y byddai’r Cyngor yn gwerthu’r adeilad i ddwylo preifat er mwyn torri costau, gyda miloedd yn gwrthwynebu’r cynlluniau hynny.
Bydd yr adeilad yn cael ei reoli gan elusen nawr yn lle.
Dywedodd Dr Martin Price, cadeirydd ymddiriedolwyr Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda chyngor Caerdydd i drosglwyddo’r eglwys yn ôl i ddwylo elusen annibynnol.
“Bydd hyn yn ein galluogi i gael gafael ar fwy o adnoddau ar gyfer yr Eglwys Norwyaidd, sy’n rhan eiconig o lannau Bae Caerdydd.
“Mae gennyn ni gynlluniau cyffrous ar gyfer yr eglwys, wrth egluro ei threftadaeth, adeiladu ar ei henw da fel canolfan gelf a gwella ei rôl yn y gymuned, a byddwn yn croesawu pobl yn ôl i’r adeilad hyfryd hwn yn fuan iawn.”
Mae disgwyl i’r cabinet arwyddo’r cytundebau ddydd Iau, 18 Tachwedd.