Mae prosiect ynni newydd wedi cael ei lansio yn nhref Llandysul yng Ngheredigion er mwyn arbed arian i breswylwyr a chefnogi cynhyrchwyr ynni adnewyddadwy’r ardal.
Bydd Ynni Lleol Llandysul yn glwb ynni unigryw sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy lleol ar gyfer ei ddefnyddio yn lleol.
Gan gydweithio â phrosiect ynni solar sy’n eiddo i bâr lleol ym mhentref Pont-Tyweli, mae Ynni Lleol Llandysul am ail-greu cynlluniau tebyg sy’n digwydd mewn rhannau eraill o Gymru.
Mae’r prosiect yn Llandysul yn dilyn prosiect tebyg ym Methesda, sy’n defnyddio ynni hydro, ynghyd â phrosiectau eraill mewn llefydd megis Corwen a Chrughywel.
Wrth baru’r swm o ynni fydd yn cael ei ddefnyddio gan y clwb gyda’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol, mae aelodau’r clwb yn amcangyfrif bod posib arbed rhwng 10-30% ar filiau trydan.
“Rydyn ni’n gofyn pobol y dre’ – ‘ydych chi am i’ch ynni fod yn lân, yn wyrdd, yn lleol ac am bris rhesymol?’ – dyma beth gall cael Clwb Ynni Lleol ei greu i breswylwyr Llandysul,” meddai Ynni Lleol Llandysul.
“Rydym am ail-greu beth sydd eisoes wedi cael ei gyflawni gan nifer o gymunedau hyd a lled Cymru trwy ddefnyddio ynni hydro. Yn ein hachos ni, mi fyddwn yn defnyddio ynni solar lleol.”
‘Atebion positif ac arloesol’
Mae Ynni Sir Gâr, sy’n cefnogi’r datblygiad, wedi bod yn gweithio gyda phobol leol i gasglu enwau’r rhai sydd â diddordeb newid eu cyflenwyr er mwyn ymuno â’r clwb.
Ar hyn o bryd, maen nhw’n chwilio am fwy o aelodau i “gymryd mantais o fuddion y fenter”, a chyfrannu at economi leol werdd.
Dywedodd Neil Lewis, rheolwr prosiect Ynni Lleol, fod y clwb yn “gyfle gwych” i’r gymuned.
“Mae cael Clwb Ynni Lleol yn gyfle gwych i gymuned ardal Llandysul, i ymuno a phrosiect arloesol i ddefnyddio ynni adnewyddadwy lleol, a drwy hynny, y posibiliad o leihau cost eu biliau trydan,” meddai.
“Gall y prosiect hwn hefyd arwain ymlaen tuag at nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy eraill yn yr ardal, gan sicrhau fod y gymuned yn buddio o, ac yn cyfrannu tuag at ddyfodol ynni cynaliadwy.
“Mae’n amserol, yn ystod trafodaethau presennol COP26 yn Glasgow, lle rydym yn galw ar arweinwyr y byd i weithredu ar newid hinsawdd, fod Llandysul a chymunedau gwledig eraill ar draws Cymru yn arwain y ffordd trwy greu atebion positif ac arloesol i ateb yr her i drawsnewid i ynni glân.
“Mae hefyd yn amserol oherwydd y ‘hikes’ diweddar mewn prisiau ynni. Gall prosiectau Ynni Lleol felly fod yn ateb i sicrhau’r ynni mwyaf glân a fforddiadwy i’n cymunedau mwyaf bregus.”
Mae’r clwb Ynni Lleol yn dal i dderbyn aelodau, ac mae posib i bobol sy’n byw yn Llandysul fynegi diddordeb trwy fynd i wefan Ynni Lleol Llandysul.
Mae cynllun arall tebyg yn y broses o gael ei lansio yng Nghapel Dewi, Castell Howell, Llanllwni, Dre-fach a Gwyddgrug hefyd.