Mae cynghorwyr yn Wrecsam wedi gwrthwynebu cynlluniau i godi eu cyflogau gan £2,400 y flwyddyn.
Roedd hi wedi dod i’r amlwg bod eu cyflogau blynyddol wedi disgyn yn is na’r cyfartaledd ar draws Cymru.
Awgrymodd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol y dylid codi eu tâl gan 16.9 y cant, ond roedd cynghorwyr yn teimlo fod hynny’n anaddas tra bod staff y Gwasanaeth Iechyd wedi cael llai o gynnydd na hynny.
Byddai eu cyflogau wedi codi o £14,368 i £16,800 yn dilyn yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.
‘Anfoesol’
Dywedodd Derek Wright, y Cynghorydd dros ward Cefn, y byddai’r cynnydd yn “anfoesol,” er ei fod yn cydnabod bod angen gwell cyflogau i annog pobol i sefyll yn yr etholiadau yn 2022.
“Rwy’n credu bod cynnydd o 16 y cant i gynghorwyr yn sarhad ar y bobol rydym ni’n eu cynrychioli,” meddai.
“Mae gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi derbyn ychydig neu ddim cynnydd mewn incwm ers 2012.
“Mae pawb sy’n gweithio yn wynebu costau byw cynyddol, boed yn gynnydd mewn prisiau tanwydd, treth cyngor, neu fwyd oherwydd prinder gyrwyr, a dydy hynny ddim hyd yn oed yn ystyried Brexit.
“Meddyliwch am staff y Gwasanaeth Iechyd a’r ymrwymiad maen nhw wedi’i roi inni yn ystod y pandemig, ac maen nhw’n disgwyl cael eu talu’n ôl am eu gwaith caled a fydd yn ôl pob tebyg ond yn gynnydd o ddau neu dri y cant ar eu cyflogau.
“Byddai nid yn unig yn anghywir i gynrychiolwyr pobol yn ein cymunedau dderbyn cynnydd o 16 y cant, byddai’n anfoesol hefyd.”
Cynyddu dros amser
Roedd Bryan Apsley, y Cynghorydd dros ward Llai, yn dweud ei fod o ddim yn deall y synnwyr yn yr awgrymiadau wrth ystyried yr hinsawdd economaidd ar hyn o bryd.
Dywedodd y dylid cyflwyno’r cynnydd cyflogau dros amser.
“Mae incwm gwario’r etholwyr dan ymosodiad gan bethau fel codiadau cyfleustodau, Yswiriant Gwladol, a phetrol ac ati,” meddai.
“Bydd canfyddiad y cyhoedd o’r cynnig yn sicr o fod yn seiliedig ar eu hamgylchiadau personol eu hunain a maint y codiad arfaethedig i gynghorwyr.
“Hoffwn gynnig bod ein hymateb yn cydnabod y gwendidau yn y system ond rhaid cyflwyno’r codiad cyflog yn raddol yn hytrach na’r cynnydd enfawr o 16 y cant ar un pryd.”
Yn ôl adroddiad, byddai’r strwythur cyflogau newydd wedi costio’r cyngor £189,000 yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Byddai aelodau a swyddogion eraill yn y Cyngor hefyd wedi derbyn cynnydd o fwy na £6,700 yn eu cyflogau ar gyfartaledd.
Bydd yr adborth i’r cynlluniau nawr yn cael ei yrru’n ôl i’r panel a wnaeth yr awgrymiadau, a bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror.