Fe gafodd canolfan fusnes newydd yn Llanbedr Pont Steffan ei hagor yn swyddogol yr wythnos hon.

Bydd Canolfan Creuddyn yn cynnig unedau i fusnesau lleol, y sector gofal cymdeithasol a sefydliadau elusennol.

Mae’n gyfleuster i’r holl gymuned, a fydd yn helpu i fynd i’r afael gydag unigedd cymdeithasol, yn cefnogi swyddi, yn darparu cyfleoedd hyfforddi, ac yn darparu ar gyfer mentrau cymdeithasol.

Cafodd cyllid ar gyfer y cynllun gwerth £3.1 miliwn ei ddarparu drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion, yn ogystal ag arian gan yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Lee Waters AoS ac Elin Jones, yr Aelod o’r Senedd dros Geredigion, yn annerch y gynulleidfa yn yr agoriad.

‘Cefnogi adfywio’r dref’

John Jenkins yw cadeirydd cwmni Barcud, sy’n gyfrifol am ddarparu’r ganolfan fusnes.

“Rydyn ni wrth ein bodd o weld dros dair blynedd o waith yn dwyn ffrwyth wrth i’r safle allweddol hwn yn Llanbedr Pont Steffan agor,” meddai.

“Ynghyd â’n cyllidwyr, hoffwn ddiolch a thalu teyrnged i’r tîm dylunio a’r contractwr lleol sydd wedi helpu i wireddu ein gweledigaeth.

“Bydd Creuddyn yn darparu adeilad datblygu menter a fydd yn cefnogi adfywio’r dref, yn creu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth newydd, ac yn cyfrannu at ddatblygu’r economi sylfaenol leol.

“Mae Creuddyn wrth wraidd ein cynlluniau i ddarparu hyfforddiant i gael gwaith, a datblygu mentrau cymdeithasol.

“Bydd hefyd yn gwella ein gwaith partneriaeth agos gydag ysgolion lleol, colegau technegol a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.”

Agoriad

Fe gafodd y ganolfan ei hagor yn swyddogol ddoe (4 Tachwedd) gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters AoS, drwy araith wedi ei recordio gan fod o ddim yn gallu bod yn bresennol ar y dydd.

“Os ydym am lwyddo i achub canol ein trefi, mae angen ymyrraeth gydgysylltiedig radical arnom,” meddai.

“Mae Creuddyn yn enghraifft wych o sut mae’r ymyrraeth hon yn gweithio.

“Nid yn unig y bydd yr uned fusnes newydd yn helpu i ddod â gwell swyddi a gwasanaethau yn nes at adref, ond bydd hefyd yn helpu i roi hwb i’r economi leol ac yn cael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd, gan gynnig mynediad i bobl at swyddi a gwasanaethau heb fod angen car.”