Fe fydd astudiaeth yn cael ei chynnal er mwyn edrych ar yr opsiynau ar gyfer datblygu hen reilffordd ar Ynys Môn.

Mae Aelod Seneddol yr Ynys, Virginia Crosbie, wedi sicrhau £100,000 i ariannu’r astudiaeth dichonoldeb o’r deunaw milltir o lein rhwng Gaerwen ac Amlwch.

Bydd £50,000 yn cael ei roi gan Gronfa Syniadau Adfer Eich Rheilffyrdd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, tra bod yr hanner arall yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Mae yna sawl ffordd y gellid defnyddio’r rheilffordd, meddai Virginia Crosbie, a bydd yr ymchwil yn edrych ar y posibilrwydd o’i hadfer fel rheilffordd ar gyfer trenau.

Bydden nhw hefyd yn ystyried ei defnyddio fel rheilffordd drefol, er enghraifft drwy ddefnyddio tramiau, neu ar gyfer datblygu llwybr beicio a cherdded.

Mae’n bosib y gallai’r opsiwn o agor llwybr cerdded a beicio olygu y byddai llwybr yn agor yr holl ffordd o Niwbwrch i Amlwch, gan gysylltu de a gogledd yr ynys ac ymuno â Llwybr Arfordir Môn.

Cafodd y rheilffordd, a oedd yn cysylltu Amlwch â Llangefni, ei agor yn 1867 a bu’n cludo teithwyr nes 1964. Bu’n cludo llwythau wedi hynny nes 1993, pan gafodd y lein ei chau’n gyfan gwbl.

“Potensial enfawr”

Dywedodd Virginia Crosbie y bydd yr arian yn golygu gallu edrych ar opsiynau ar gyfer rhoi’r rheilffordd yn ôl “ar y trywydd iawn”.

“Mae’r rheilfordd segur hon wedi mynd yn angof ers tro byd, ond bydd y chwistrelliad arian hwn i edrych ar opsiynau ar gyfer ei dyfodol yn ei rhoi yn ôl ar y trywydd iawn,” meddai.

“Rwy’n falch iawn bod yr Adran Drafnidiaeth wedi cytuno â mi bod gan yr hen reilffordd botensial enfawr ar gyfer hamdden a thwristiaeth yn Ynys Môn, a hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd y cais.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r tîm Trafnidiaeth Cymru a’r rhai a anfonodd lythyrau i gefnogi’r cais – Menter Môn, M-SParc, Môn CF, Llywodraeth Cymru, cyngor Ynys Môn, Cyngor ar Bopeth ac AoS Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.

“Rhaid i ni ddod o hyd i’r ffordd orau o adfywio’r hen reilffordd. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr astudiaeth ddichonoldeb a’i chasgliadau.”