Mae Cyngor Gwynedd am ystyried caniatáu cerbydau gwersylla i aros dros nos yn rhai o’u meysydd parcio.
Mae’n debyg bod yr awdurdod yn bwriadu gwario £100,000 ar sefydlu mannau parcio, yn debyg i’r ‘Aires’ sydd ar gael yn Ffrainc, o fewn meysydd sydd yn bodoli’n barod.
Daw hyn yn dilyn golygfeydd digynsail dros yr hafau diwethaf, gyda rhai yn cwyno am ddiffyg rheolaeth o’r cerbydau yn ddiweddar.
Mae adroddiad i’r cabinet am awgrymu hyd at chwe lleoliad peilot a fyddai’n cael eu neilltuo ar gyfer cerbydau gwersylla, yn dilyn pryderon eu bod nhw’n parcio’n anghyfreithlon.
Lliniaru’r straen
Gyda meysydd carafanio ar draws y sir yn ei chael hi’n anodd gyda niferoedd, mae gobaith y bydd cyflwyno’r mannau parcio newydd yn lleihau gollyngiadau o faw dynol a gwastraff, gan greu ychydig o fuddion economaidd ar yr un pryd.
“Nod y peilot hwn fyddai annog y rhai sy’n ymweld mewn cartrefi modur i aros mewn tref neu bentref, gan gynnig elfen o fudd economaidd i’r gymuned leol a gwell rheolaeth ar y sector,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, sy’n gyfrifol am y portffolio datblygiad economaidd.
“Gyda chyfyngiadau Covid-19 wedi gwneud pobol yn llai tebygol o deithio i’r cyfandir dros y ddau haf diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn y bobl sy’n ymweld mewn cartrefi modur i fwynhau atyniadau poblogaidd Gwynedd.
“Mewn gwirionedd, fe wnaeth gwerthiant cerbydau modur hefyd gynyddu o 71% yn 2019 a 2020.
“Mae’r nifer uchel o bobol sy’n ymweld wedi bod yn destun pryder i rai ardaloedd gyda rhai yn penderfynu aros mewn cartrefi modur mewn lleoliadau lle nad oes hawl cyfreithiol i gysgu mewn cerbyd dros nos.
“Dyna pam rydyn ni’n awyddus i ystyried pa gamau y gellir eu hystyried i wella rheolaeth yn y maes.”
Ymgynghoriad
Fe wnaeth ymgynghoriad ar-lein dros yr haf ganfod y byddai 92.2% o berchnogion cartrefi modur yn barod i ddefnyddio darpariaeth parcio swyddogol os byddai ar gael, gyda’r gofynion pennaf yn cynnwys dŵr ffres a rhywle i waredu gwastraff toiledau.
Dywedodd swyddog yr amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith, y “byddai’r cynllun yn caniatáu inni weld a yw’r trefniant newydd hwn yn rheoli’r sefyllfa yn well, ac ystyried a fyddai’n ein helpu i gael gwell rheolaeth yn y sir yn y dyfodol.”
Pe bai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo felly, mae disgwyl y byddai’r broses gynllunio yn dechrau yn Chwefror 2022, gyda’r safleoedd peilot yn weithredol o wanwyn 2023.
Bydd y cabinet yn ystyried yr adroddiad pan fyddan nhw’n cyfarfod ddydd Mawrth nesaf (9 Tachwedd).