Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi helpu Cyngor Ceredigion i wella ar eu targedau lleihau allyriadau carbon.
Roedd adroddiad i’r Cyngor yn nodi eu bod nhw wedi gwario £1 miliwn yn llai ar ynni yn 2020/21.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn awdurdod lleol sero-net erbyn 2030.
Roedd diweddariad i’r Cyngor yn trafod cynnydd y cynllun hwnnw wedi ei gyflwyno i bwyllgor craffu’r wythnos hon.
Roedd y Cynghorydd Alun Williams yn pwysleisio fod yr argyfwng hinsawdd yn “fater difrifol iawn i ni gyd am bob math o resymau,” wrth iddo adlewyrchu ar y cynnydd.
Ffigyrau
Roedd y ffigyrau am allyriadau gweithredol yn 2020/21 i lawer 19% ar y flwyddyn flaenorol ar draws adeiladau ac adnoddau’r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Dai Mason mai “Covid oedd wedi adfer mwyafrif yr arian” gyda swyddogion yn cytuno bod llawer o’r arbedion wedi eu gwneud wrth i swyddfeydd fod ar gau.
Roedd y nifer o deithiau gan aelodau a gweithwyr y Cyngor wedi gostwng yn sylweddol hefyd, gan ostwng lefelau allyriadau a gwariant ymhellach.
Fe wnaeth y pwyllgor hefyd drafod y ddadl bod dim pwynt lleihau allyriadau carbon tra bod gwledydd mawr fel China ddim yn gwneud hynny.
Dywedodd rheolwr lleihau carbon y Cyngor, Bethan Lloyd Davies: “Fel awdurdod lleol, y disgwyliad ydi ein bod ni’n arwain gydag esiampl ac yn hybu ffyrdd gwyrdd o weithio, bod yn wyrdd yn gyffredinol a lleihau allyriadau.”