Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn am weld gwelliannau i gysylltedd symudol yn cael eu gwneud yn gyflymach.
Bu Craig Williams mewn digwyddiad seneddol yn cefnogi gwneud gwelliannau sydyn i gysylltedd symudol yn ddiweddar, ac yn ôl y Ceidwadwyr bydd y gwelliannau o fudd anferth i Drefaldwyn ac yn rhoi hwb i economi’r Deyrnas Unedig.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Speed Up Britain, sefydliad traws-ddiwydiant sy’n gweithio er mwyn gwella cysylltedd symudol dros y Deyrnas Unedig drwy wneud newidiadau i’r Còd Cyfathrebu Digidol a gweithio gyda pherchnogion tir.
Mae Craig Williams yn cefnogi’r ymgyrch i wneud gwelliannau’n gyflymach i gysylltedd symudol y Deyrnas Unedig, a fyddai’n caniatáu Rhwydwaith Gwledig wedi’i Rannu, gan olygu y byddai 95% o’r Deyrnas Unedig yn cael 4G, a thechnoleg 5G.
“Hanfodol”
Wrth siarad am yr angen, dywedodd Craig Williams AS, fod y pandemig wedi “amlygu pa mor hanfodol yw cysylltedd symudol, yn enwedig o fewn etholaeth wledig fel un ni”.
“Mae gwella cysylltedd a darpariaeth symudol yn flaenoriaeth hanfodol i mi, a byddai’n dod â buddion economaidd a chymdeithasol enfawr i breswylwyr a busnesau dros Sir Drefaldwyn,” meddai Craig Williams.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dangos ei hymrwymiad i godi’r gwastad yn y maes digidol dros y Deyrnas Unedig i gyd yn barod gyda’r Rhwydwaith Gwledig wedi’i Rannu, a fydd yn sicrhau bod nifer mwy ohonom ni dros Sir Drefaldwyn yn gallu edrych ymlaen at gael darpariaeth 4G sydyn a dibynadwy yn ein cartrefi a tu allan.
“Rydyn ni nawr angen sicrhau bod y fath welliannau i’n cysylltedd symudol yn cael eu gwneud yn gyflymach, a dw i’n edych ymlaen at y Bil Telegyfathrebu a Diogelwch Cynnyrch a fydd yn golygu bod y newidiadau hanfodol yn cael eu gwneud mor sydyn â phosib, gobeithio.”