Mae cynlluniau gwerth £200m ar droed i agor safle yn Sir y Fflint sy’n troi gwastraff yn drydan.

Bydd y cais i adeiladu gorsaf ‘nwyeiddio’ ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cael ei ystyried gan y Cyngor wythnos nesaf.

Byddai’r cynllun yn golygu bod hyd at 80,000 tunnell o danwydd sy’n deillio o sbwriel yn cael ei drin yn yr hen orsaf bŵer Gaz de France yn flynyddol.

Y bwriad yw creu 9.9 megawat o drydan, a bydd y rhan fwyaf o’r trydan hwnnw yn cael ei ddefnyddio i bweru lleoliadau cyfagos, gan gynnwys safle rheoli gwastraff a ffatri Toyota.

Mae pryderon wedi codi ynglŷn ag effaith y cynllun ar yr ardal, gydag un cynghorydd yn honni y byddai’n achosi llygredd.

Dywed y Cynghorydd Ian Smith, sy’n cynrychioli ward De Cei Conna, fod yr ardal lle byddai’r orsaf newydd “eisoes â llygredd sylweddol.”

Argymhelliad

Er y pryderon, roedd uwch swyddog cynllunio Cyngor Sir y Fflint, Andrew Farrow, yn awgrymu y dylid cymeradwyo’r cynllun gan na fyddai’n cynhyrchu nifer sylweddol o allyriadau.

“Byddai’r datblygiad arfaethedig yn ailddefnyddio tir sydd ar hyn o bryd yn segur,” meddai mewn adroddiad.

“Pe bai’r caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod, mae’n annhebygol y byddai safle mwy addas mewn man arall a fyddai’n achosi llai o niwed oherwydd bod safle’r cynllun gyferbyn â safle’r ffynhonnell tanwydd.

“Byddai buddion economaidd yn ystod y cyfnod adeiladu a’r cyfnod gweithredol ac er y byddai nifer y swyddi fyddai’n cael eu darparu yn is na diwydiannau eraill, mae’r gyfradd swyddi gwag yn yr ardal hon yn gymharol uchel.

“Dydy’r cyfleuster ddim yn hollol angenrheidiol o ran rheoli gwastraff Gogledd Cymru, ac os bydd y cyfleuster yn rhoi’r gorau i weithredu, byddai’n well peidio â gadael adeiladau a pheiriannau diangen ar y safle.

“Fodd bynnag, mae caniatâd cynllunio eisoes wedi’i roi ar gyfer y prif gyfleuster rheoli gwastraff, ac mae hyn yn cynrychioli ffordd wahanol o gynhyrchu’r pŵer ar gyfer y safle na chafodd ei gynnig yn wreiddiol.

“Mae’r broses yn ei hanfod yn lanach nag ynni traddodiadol o losgi gwastraff ac yn cynhyrchu ychydig iawn o allyriadau, heblaw am nwyon llosgi arferol fel carbon deuocsid a dŵr.”

Awgrymodd Andrew Farrow y dylid rhoi caniatâd cynllunio ar yr amod bod y safle’n stopio gweithredu erbyn 2050.

Erbyn hynny, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio sicrhau nad oes unrhyw wastraff yn cael ei yrru i safleoedd tirlenwi neu losgi.

Bydd y cynlluniau’n cael eu trafod gan aelodau’r pwyllgor cynllunio mewn cyfarfod ddydd Mercher (Hydref 27).