Mae Arfon Haines Davies wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar sgriniau teledu Cymru ers y 1970au, ac wedi holi Cymry byd-enwog megis Anthony Hopkins a Tom Jones.

Ac yn fwy diweddar mae’r darlledwr wedi troi ei law at olygu llyfrau.

Ond fe gychwynnodd ei yrfa yn athro, cyn i drywydd ei fywyd newid yn 1975 pan gafodd swydd gyda HTV.