Mae Cyngor Ceredigion yn cynnal gwaith pellach i leihau lefelau ffosffadau yn Afon Teifi.
Golyga hynny y bydd oedi yn y broses o gyflwyno Cynllun Datblygu Lleol newydd, ac mae nifer o geisiadau cynllunio eisoes wedi eu gwrthod.
Yn Ionawr 2021, fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru dystiolaeth bod lefelau uchel o ffosffadau yn Afon Teifi, sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig.
Mae’r afon yn tarddu o Lyn Teifi yn yr Elenydd, a’n llifo drwy Bontrhydfendigaid, Tregaron, Llambed a Llanybydder, cyn mynd allan i’r môr yn Aberteifi.
Byddai datblygiadau yn y cymunedau hyn yn cael eu heffeithio’n fawr gan y canllawiau newydd sydd yn y broses o gael eu llunio.
Penderfyniad y Cyngor
Fe wnaeth cynghorwyr sir Ceredigion gytuno i oedi ar y Cynllun Datblygu Lleol am y tro mewn cyfarfod heddiw (21 Hydref).
Byddan nhw’n defnyddio’r cyfnod nesaf i gasglu tystiolaeth a data hanfodol, yn ogystal â chynllunio opsiynau i liniaru effaith datblygu ar yr afon.
Fe gafodd y penderfyniad ei drafod ymhellach gan y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio.
“Mae Ceredigion yn adnabyddus am ei nodweddion amgylcheddol cyfoethog,” meddai.
“Mae’n gartref i sawl ardal a nodwedd a ddynodwyd am eu pwysigrwydd amgylcheddol, gan gynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi.
“O ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth ni, bydd angen oedi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd am y tro i roi amser i opsiynau lliniaru gael eu hystyried o ran cefnogi datblygiadau newydd yn yr ardal.
“Ein nod yw sicrhau bod gennym gynllun datblygu yn y dyfodol a fydd yn gyson ledled Ceredigion gyfan.”
Bydd y Cyngor nawr yn parhau i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, a phartneriaid eraill er mwyn canfod datrysiadau lleol a chenedlaethol i lygredd ffosffad.