Mae STORIEL yn “paratoi llawn crochan o ysbrydoliaeth” ar gyfer #hannertymorhanesyddol, wrth i amgueddfeydd ledled y wlad baratoi ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Eleni, bydd cymysgedd o ddigwyddiadau byw mewn amgueddfeydd ar hyd a lled y wlad, yn ogystal â gweithgareddau ar-lein i’w mwynhau.

Maen nhw’n addo gwledd o weithgareddau i’r hen a’r ifanc, a bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n rhad ac am ddim.

Dywed amgueddfa ac oriel STORIEL ym Mangor eu bod yn edrych ymlaen at ymuno yn hwyl yr ŵyl trwy gynnig Helfa’r Ddraig a sesiwn addurno llechi i ddathlu Statws Safle Treftadaeth y byd yr ardaloedd llechi yng Ngwynedd.

Bydd plant yn cael cyfle i addurno llechi STORIEL tra’n darganfod mwy am eu casgliad o lechi cerfiedig.

Bydd cyfle hefyd i’r plant arbrofi gyda gwneud lluniau ar hen lechi Ysgol a byrddau sialc.

Helfa Ddraig

Ar ben hynny, bydd yno helfa ddraig yn cael ei chynnal.

Trwy gydol Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, bydd STORIEL yn roi’r cyfle i ymwelwyr ifanc chwilio am y ddraig fach er mwyn ei dychwelyd i’r gwyllt fel y gall dyfu’n fawr ac yn gryf fel y ddraig ar faner Cymru.

“Gyda’i gilydd, mae’r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru, ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer dysgu, archwilio a gwybodaeth am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol, a sut rydym wedi byw yma yng Nghymru ers gwawrio amser,” meddai STORIEL mewn datganiad.

Mae’r digwyddiadau yn dechrau yn STORIEL ar 23 Hydref ac yn gorffen ar 30 Hydref ac mae modd archebu tocynnau ar wefan www.eventbrite.co.uk