Mae unigolyn wedi cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn ymosodiad honedig ym Mangor neithiwr, 14 Hydref.
Roedd dyn wedi ei ganfod yn anymwybodol yn Nhan y Fynwent yng nghanol y ddinas tua 21:30.
Fe wnaeth y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Heddlu ymateb i’r digwyddiad, ac fe gafodd y dyn anymwybodol ei gludo i’r ysbyty i drin ei anafiadau.
Roedd swyddogion yr heddlu wedi cau’r ardal i’r cyhoedd tra’u bod yn delio â’r sefyllfa.
“Cawsom ein galw am oddeutu 9.30pm neithiwr (14/10) gan gydweithwyr yn y gwasanaeth Ambiwlans am gymorth gyda digwyddiad yn Nhan y Fynwent, Bangor,” meddai Heddlu Gogledd Cymru.
“Cafwyd hyd i ddyn a oedd yn ddiymateb ac fe’i credir ei fod wedi cael ei ymosod arno. Aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty mewn ambiwlans ac mae cadwyn yr heddlu wedi’i gosod yn yr ardal er mwyn gwarchod y fan a’r lle.
“Mae rhywun yn y ddalfa ar hyn o bryd o ran y digwyddiad hwn ac mae ymholiadau’r heddlu yn parhau.
“Rydym yn apelio am unrhyw dystion, neu unrhyw un gyda gwybodaeth am y digwyddiad hwn, i ddod ymlaen a chysylltu gyda’r heddlu drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101 a dyfynnu cyf Z151183.”