Mae pryderon wedi codi ynghylch cynnydd ymwelwyr â safle Traphont Pontcysyllte yn sgil y pandemig Covid-19.

Roedd yr atyniad ger Wrecsam wedi gweld y nifer uchaf o ymwelwyr yn 2019, gyda 363,000 o bobol yn heidio yno, ond mae’n debyg bod y ffigwr hynny wedi codi ers i gyfyngiadau teithio gael eu cyflwyno ym mis Mawrth 2020, wrth i bobol fynd ar eu gwyliau yn agosach i adref.

Er hynny, mae cymunedau lleol o amgylch y strwythur 126-troedfedd o uchder wedi mynegi pryderon am yr effaith arnyn nhw.

Fe gafodd cynlluniau gwerth £41 miliwn er mwyn lliniaru problemau traffig a pharcio eu datgelu llynedd.

Er bod y cynlluniau hyn am fwy o lefydd parcio a chanolfan ymwelwyr wedi eu croesawu gan fwyaf, roedd un cynghorydd yn dweud bod y gwelliannau ddim yn dod yn ddigon cyflym.

Cafodd Traphont Pontcysyllte ei adeiladu gan y peirianwyr Thomas Telford a William Jessop, a’i gwblhau yn 1805, ac mae wedi ei ddynodi’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 2009.

Pryderon

Fe wnaeth Rondo Roberts, y Cynghorydd dros ward Llangollen Wledig, fynegi ei bryderon mewn cyfarfod â Chyngor Wrecsam.

“Y prif fater i mi fy hun fel yr aelod lleol yw nifer yr ymwelwyr a’r rheolaeth ohonyn nhw,” meddai.

“Dyma’r atyniad mwyaf i ymwelwyr yn Wrecsam ac mae parcio ac arwyddion ceir wedi’u trafod, ond rwy’n credu bod y rhain yn faterion y mae angen eu codi mewn cyfarfod fel hwn.

“Mae yna atebion cyflym a rhai materion y gellid ac y dylid eu gwneud yn llawer cyflymach.

“Mae angen i’r pwyslais fod ar y bobol leol, gan fod yn rhaid i ni fyw yna ac o’i gwmpas.

“Dylai partneriaid fod yn gweithio’n llawer agosach i leihau unrhyw aflonyddwch, i wneud y gorau o’r gwelliannau a chyflymu’r cyflawniad.”

Twf mewn ymwelwyr

Mae’n debyg bod y ffigyrau ymwelwyr bedair gwaith yn uwch ers iddo gael ei wneud yn Safle Treftadaeth y Byd, a oedd yn cyfrannu £140 miliwn y flwyddyn i economi’r ardal cyn y pandemig.

Dywedodd Cyngor Wrecsam bod y cynnydd mewn gwerth oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth o’r draphont.

Roedd cynnig wedi ei wneud yn ddiweddar am £15 miliwn o Gronfa Godi’r Gwastad (Levelling Up Fund) Llywodraeth Prydain, er mwyn gwella isadeiledd yr ardal – gyda chynlluniau i greu pont gerdded a safle gwersylla.

Cynlluniau ar gyfer gwelliannau yn safle Traphont Pontcysyllte

Ymateb Cyngor Wrecsam

Dywedodd Rebeccah Lowry, rheolwr gwasanaeth adfywio Cyngor Wrecsam, eu bod nhw’n parhau i ymrwymo i leihau’r pryderon sydd gan bobol leol.

“Rydyn ni’n ymwybodol iawn o rai o’r effeithiau ar y gymuned a’r pryder gall hynny ei achosi i drigolion lleol,” meddai.

“Y cyfyngiad mwyaf i ni yw’r cyllid gan ei fod yn gyrchfan lwyddiannus iawn i ymwelwyr.

“Rydyn ni eisiau iddo fod yn bleserus i bawb ac mae hynny yn cynnwys sicrhau bod rheolaeth ar ymwelwyr yno.

“Fel Cyngor Wrecsam, ychydig iawn o’r tir sydd gennyn ni ac rydyn ni’n dibynnu ar bartneriaid.”

“Gwnaed llawer o gynnydd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda’r prif gynllun cyfredol hwn.

“Mae agweddau ohono i’w gweld yn y cais Cronfa Codi’r Gwastad felly rydyn ni wir yn gobeithio bydd hynny’n llwyddiannus.”