Bydd y gantores enwog Cerys Matthews yn gwobrwyo gwirfoddolwraig o Gaerffili, sydd wedi ymgyrchu i achub ysbyty hanesyddol yn y dref.
Mae Katherine Hughes yn derbyn Gwobr y Loteri Genedlaethol yn y categori Cymunedau ac Elusennau, sy’n cydnabod ymdrechion gwirfoddol diysgog, yn ogystal â gwobr ariannol o £3,000.
Katherine yw’r Ysgrifenyddes yng Nghanolfan Glowyr Caerffili, a bydd hi’n derbyn ei gwobr yn y ganolfan honno ar ddydd Mawrth, 12 Hydref.
Fe dderbyniodd y Loteri Genedlaethol fwy na 1,500 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau eleni, sy’n cael ei ariannu drwy arian loteri.
Gwaith gwirfoddol
Mae gwaith gwirfoddol Katherine, sy’n 72 oed, yn deillio’n ôl 15 mlynedd, pan gafodd cynlluniau i gau a dymchwel ysbyty’r Glowyr yng Nghaerffili eu cyhoeddi.
Sefydlodd hi grŵp cymunedol i helpu i achub yr adeilad, a’i droi yn ganolfan sydd bellach yn cael ei redeg gan y gymuned.
Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 2008, a hynny i gyd yn fuan ar ôl i Katherine ddod dros driniaeth ar gyfer canser.
Bryd hynny, cawson nhw les 99 mlynedd ar yr adeilad, gyda chefnogaeth grant o £250,000 oddi wrth y Loteri Genedlaethol, ac fe gafodd y gwaith adnewyddu ei gwblhau erbyn 2015, wrth i Ganolfan Glowyr Caerffili agor ar ei newydd wedd.
Dywedodd Katherine y byddai’n “drychineb” pe bai’r adeilad – lle mae cenedlaethau o deuluoedd de Cymru wedi cael eu babanod – yn cael ei ddymchwel.
Erbyn hyn, mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaethau a gweithgareddau i bob oedran, yn cynnwys dosbarthiadau iaith, celf, ffitrwydd, gweu, ac yn y blaen.
Mae Katherine yn parhau i gymryd rhan weithredol yn y ganolfan fel stiward ac arweinydd y grŵp gwirfoddol, ac mae hi eisoes wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig gan y Frenhines am ei gwaith yn y gymuned.