Mae Cyngor Sir Conwy wedi gwrthwynebu cynlluniau i gynyddu maint fferm wynt ar yr arfordir yno.
Fel rhan o’r cynlluniau, byddai fferm wynt newydd Awel Y Môr yn ymestyn ar hyd arfordir Bae Colwyn a Llanfairfechan, gyferbyn â safle presennol fferm wynt Gwynt y Môr.
Byddai’r fferm newydd rhyw 10.5km o’r Gogarth ger Llandudno.
Mae cynghorwyr a swyddogion wedi lleisio pryder am yr effaith ar dwristiaeth ac ar dirwedd yr ardal, gyda’r cynlluniau ar gyfer y fferm newydd yn “ddwbl maint” y fferm bresennol sydd yno.
“Gormod o lawer”
Mewn cyfarfod pwyllgor cynllunio arbennig, fe wnaeth datblygwyr egluro sut y byddai’r fferm wynt yn brosiect isadeiledd sylweddol a chenedlaethol.
Ond roedd y Cynghorydd Andrew Hinchliffe yn pryderu y byddai’r golygfeydd yn cael eu “dinistrio”.
“O ble’r ydyn ni nawr, dim ond y tyrbinau presennol dros Landudno y gallwn eu gweld, sy’n syndod mawr,” meddai.
“Ond fe fyddai’r [tyrbinau newydd] ddwywaith yr uchder ac yn ymestyn ar draws yr olygfa, sy’n anodd iawn i fi ddirnad.
“Rwy’n credu bod hyn yn ormod o lawer. Pe bydden nhw’n adeiladu’r rhain, siawns na allai tyrbinau fod yn llawer pellach allan ac yn llai ymyrgar ar ein tirwedd.
“Rwy’n credu bod yn rhaid i ni awgrymu eu bod yn eu gwneud yn llai amlwg oherwydd rwy’n credu eu bod yn mynd i ddinistrio ein golygfeydd a’n tirwedd hanesyddol.”
Ymgynghoriad
Roedd y cyfarfod yn rhan o broses ymgynghori sy’n dod i ben ddydd Llun, 11 Hydref.
Mae cwmni RWE Renewables, sy’n gyfrifol am y cynlluniau, wedi cynnig dau opsiwn ar gyfer y safle.
Un yw codi 48 tyrbin mawr, a’r llall yw codi 91 tyrbin bach.
Mae swyddogion cynllunio Conwy wedi awgrymu y dylai cynghorwyr wrthwynebu’r cynlluniau, gan nodi’r difrod i’r dirwedd weledol, effaith ar y morlun, a niwed i dwristiaeth fel rhesymau.