Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio prosiect er mwyn amddiffyn a hyrwyddo enwau lleoedd cynhenid y sir.

Bydd y Prosiect Gwarchod Enwau Cynhenid yn cyflwyno cynlluniau strategaethol er mwyn gweithredu hynny, gyda’r bardd Meirion MacIntyre Huws yn arwain y prosiect.

Mae’r Cyngor yn gobeithio bod ar flaen y gad o ran enwau llefydd, yn dilyn galwadau bod enwau lleoedd a thai cynhenid Cymraeg yn cael eu colli.

Yn 2020, fe wnaeth 15,000 o bobol arwyddo deiseb i Senedd Cymru yn galw arnyn nhw i wneud mwy i sicrhau dyfodol enwau gwreiddiol.

Fe wnaeth y digrifwr a’r cyflwynydd, Tudur Owen son am y broblem ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y teledu.

Fe gyfeiriodd at Lyn Bochlwyd yn Eryri – sy’n aml yn cael ei alw yn ‘Lake Australia’ oherwydd ei siâp sy’n nodweddiadol o’r ynys.

Hanesyddol

Dywedodd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae enwau Cymraeg o bwysigrwydd hanesyddol sylweddol gan eu bod yn adlewyrchu’r defnydd gwreiddiol o adeiladau, eu lle yn y gymuned a’r nodweddion daearyddol o’u cwmpas,” meddai.

“Rydyn ni’n sensitif i ofnau lleol bod newid a dileu enwau Cymraeg yn niweidio ein hanes a’n diwylliant a dyna pam mae’r prosiect hwn yn flaenoriaeth i ni, ac mae wedi’i gynnwys yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

“Rydyn ni eisiau amddiffyn a hyrwyddo’r enwau brodorol hyn ac rydyn ni’n falch bod Meirion [MacIntyre Huws] yn ymuno â’r tîm.

“Bydd y tîm yn datblygu rhaglen waith, gan weithio gydag eraill o fewn y cyngor a gyda chyrff allanol i archwilio’r posibiliadau, a chymryd camau cadarnhaol tuag at hyrwyddo a gwarchod enwau lleoedd Cymreig.

“Gobeithio y bydd hyn yn ymdrin â phob agwedd, o’r enwau hanesyddol ar eiddo ac enwau strydoedd i drefi a phentrefi a lleoliadau daearyddol.”

Tapestri

Mae Meirion MacIntyre Huws – sy’n cael ei adnabod fel Mei Mac – yn dweud y bydd y swydd yn cynnwys ymwneud â’r gymuned i hyrwyddo enwau cynhenid y sir.

“Mae hwn yn faes sydd wedi fy swyno ers blynyddoedd lawer ac yn agos at fy nghalon,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o warchod elfen bwysig iawn o’n hanes a’n hiaith.

“Rwy’n gweld hanes Gwynedd fel hen dapestri mawr, lliwgar, yn frith o luniau a digwyddiadau sy’n adrodd straeon y sir.

“Un rhan o’r tapestri gwerthfawr hwnnw yw hanes enwau lleoedd. Mae colli enw Cymraeg ar dŷ er enghraifft yn creu twll yn y tapestri ac mae mwy o dyllau yn ymddangos bob dydd.”