Mae cynghorwyr yng Ngheredigion yn anelu at sicrhau mwy o amrywiaeth ymysg ymgeiswyr yn y dyfodol.

Bydd yr etholiadau lleol nesaf yn cael eu cynnal ym mis Mai 2022.

Fe gafodd datganiad ynghylch amrywiaeth, sydd wedi ei lunio gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ei gymeradwyo mewn cyfarfod rhithiol o Gyngor Ceredigion ddydd Iau, 23 Medi.

Byddan nhw’n mynd ati i geisio lliniaru’r rhwystrau sy’n atal pobol, yn enwedig y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, rhag dod yn gynghorwyr drwy roi camau gweithredu ar waith yn lleol.

Fe gafodd sawl rhwystr eu nodi yn y cyfarfod yn cynnwys ymrwymiad amser, diwylliant gwleidyddol a sefydliadol, cyfrifoldebau gofalu, a beirniadaeth gyhoeddus.

“Hollbwysig i wead a hunaniaeth y sir”

Ymysg y camau fydd y Cyngor yn eu cymryd mae creu canllaw ar gyfer darpar ymgeiswyr, annog pobol ifanc a dinasyddion tramor i bleidleisio, a chynnal mwy o gyfarfodydd yn rhithiol.

Fe ddywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion bod sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth leol yn “hollbwysig i wead a hunaniaeth y sir.”

“Rydym yn falch o gael cytundeb i’r datganiad amrywiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,” meddai.

“Rydym eisoes wedi rhoi camau ar waith i liniaru unrhyw rwystrau a all wynebu pobl rhag dod yn aelodau etholedig.

“Mae sicrhau amrywiaeth lleisiau yn gwbl greiddiol i gynnal democratiaeth iach a ffyniannus yng Ngheredigion.”

Mae’r datganiad amrywiaeth hefyd yn cyd-fynd â Chynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2020-24, sef ‘Ceredigion Teg a Chyfartal.’