Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer croesawu myfyrwyr prifysgol yn ôl yr wythnos hon.

Daeth hyn gyda rhybudd bod achosion o’r coronafeirws ar gynnydd yn y sir.

Mae’r Cyngor hefyd yn annog unrhyw fyfyrwyr sydd heb gael eu brechu i fynd am bigiad.

Gall myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gael brechiad yn Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth, neu yn Ysgol Trewen, Cwm-cou.

“Er mwyn cynnal diogelwch pawb, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sydd â champws yn Llanbedr Pont Steffan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phartneriaid eraill i sicrhau bod mesurau ar waith i ddiogelu myfyrwyr, trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd,” meddai’r cyngor mewn datganiad.

“Mae achosion o’r coronafeirws yn parhau i gynyddu yn y sir, felly anogir pawb i fod yn wyliadwrus a dilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu ei gilydd.

“Gall myfyrwyr ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau o ran Covid-19 yn eu prifysgol ar wefan Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant.

“Os bydd unigolyn yn datblygu unrhyw symptomau o’r coronafeirws, rhaid hunanynysu yn syth am 10 diwrnod a threfnu prawf PCR.”