Bydd diwrnod o weithredu’n cael ei gynnal ddydd Sul (Medi 19) er mwyn tynnu sylw at y diffyg opsiynau beicio a cherdded diogel rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
Mae’r A487 rhwng y ddwy dre’n annog cymunedau i beidio bod yn actif, yn effeithio ar yr hinsawdd ac yn rhoi bywydau mewn perygl, meddai’r ymgyrchwyr.
Trwy gyfres o ddigwyddiadau, bydd aelodau o’r gymuned yn adrodd straeon ynghylch pa mor anodd yw hi i gerdded o un lle i’r llall.
Bydd hynny’n cynnwys teuluoedd oedd yn arfer gyrru eu plant i Ysgol Llangynfelin yn Nhre Taliesin cyn iddi gau, ac sy’n cael trafferth cyrraedd Ysgol Tal-y-bont heb ddefnyddio ceir nawr.
Yn ôl yr ymgyrchwyr, byddai defnyddio llwybr diogel yn gwella eu hiechyd a’u llesiant, yn ogystal â gwella ansawdd yr aer, lleihau llygredd sŵn, a gostwng allyriadau carbon.
Bydd y digwyddiadau cymunedol yn cyd-fynd â thaith werdd o amgylch canolbarth a gogledd Cymru gan Climate.Cymru, sy’n casglu straeon pobol ac yn eu hadrodd nhw i’r uwchgynhadledd COP26 ryngwladol ym mis Tachwedd.
Y digwyddiadau
Yn ôl y trefnwyr, Ecodyfi a’u partneriaid, mae nawr yn amser da i ymgyrchu gan fod cyfle i siapio Map Teithio Actif Powys a Cheredigion.
Bydd yr ymgynghoriadau hynny yn manylu ar flaenoriaethau awdurdodau lleol wrth geisio gwella diogelwch wrth deithio.
Fe fydd Trywydd Iach, prosiect sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymuned y Loteri Genedlaethol, yn rhan o’r digwyddiadau ac yn gwrando ar argymhellion pobol ynghylch beth sydd angen ei wneud ar gyfer gwella seilwaith cerdded a beicio.
Mae Ecodyfi a’u partneriaid yn trefnu digwyddiadau byr yn Aberystwyth (Plascrug rhwng 9yb a 10yb), ac yng Nghlettwr (11:30yb tan 12:30yh).
Bydd digwyddiad hirach yn cael ei gynnal yn Y Plas ym Machynlleth hefyd, gan ddechrau am 1 yn y prynhawn.
Bydd taith feics a thro i deuluoedd o Dderwenlas i Fachynlleth am 1yh hefyd er mwyn dathlu beth sy’n bosib pan fo’r llywodraeth, asiantaethau a chymunedau yn adeiladu llwybrau diogel sy’n gallu cael eu defnyddio gan feicwyr a cherddedwyr.
‘Dyfodol carbon sero’
“Rydyn ni eisiau gallu croesi’r ffordd heb fod ag ofn; siarad â’n cymdogion dros y stryd; cerdded neu feicio i’r ysgol, gwaith a’n siopau lleol; gweld ffrindiau a theulu; anadlu aer glân; teithio o gwmpas yn ddiogel heb fod angen car,” meddai Andy Rowland, rheolwr Ecodyfi.
“Rhaid i weddill y cerbydau fod yn rhai trydan, a gellir rhannu nifer ohonyn nhw.
“Dyna sut y gall dyfodol carbon sero edrych – hyd yn oed mewn ardal wledig.”